Fel rhan o roi Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru ar waith, comisiynwyd ADSS Cymru gan Lywodraeth Cymru i astudio recriwtio a dilyniant gyrfa staff o gefndiroedd ethnig lleiafrifol mewn gofal cymdeithasol.
Gwnaethom arolygu a chyfweld dros 100 o bobl am eu profiadau bywyd, yn ogystal ag ymgysylltu’n uniongyrchol ag awdurdodau lleol, sefydliadau a chyflogwyr.
Mae’r canfyddiadau bellach ar gael yn ein hadroddiad diweddaraf ‘Darparu Gofal Cymdeithasol mewn Cymru Wrth-hiliol’. Mae’r adroddiad yn manylu ar gyd-destun y sector heddiw, adborth o arolygon, cyfweliadau ac ymgysylltu, casgliadau, ac argymhellion.
Mae’r adroddiad ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd fersiwn hawdd ei deall ar gael yn fuan.