Yn blaenorol yn gangen o Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol y DU, cafodd Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru ei statws annibynnol ar 1 Ebrill 2007. Daeth yr ad-drefnu ar ôl newidiadau deddfwriaethol yn Lloegr yn 2005 ac i adlewyrchu’r dirwedd wleidyddol a deddfwriaethol a oedd yn ymwahanu’n gynyddol yng Nghymru.
Cafwyd pleidlais lethol ar y cynnig i ail-ffurfweddu flwyddyn yn ddiweddarach ac o ganlyniad, rhannwyd cymdeithas y DU yn dri grŵp ar wahân: Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion (ADASS), Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Plant (ADCS), ac ADSS Cymru.
Ers hynny, mae ADSS Cymru wedi gweithio’n galed i greu llais arweinyddiaeth unedig ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru trwy godi ei broffil cyhoeddus, gwneud cyfraniadau arwyddocaol i ddatblygu polisi gofal cymdeithasol cyhoeddus a meithrin perthynas agosach â chyrff proffesiynol allweddol.
Heddiw, rydym yn arwain ar drawsnewid a gwella gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru a chanolbwyntio ein hymdrechion ar hyrwyddo cydweithio, dull sy’n seiliedig ar ganlyniadau a newid dwylliant yn erbyn cefndir o alw cynyddol a llai o adnoddau. Felly, rydym wedi chwarae rôl fawr mewn trafodaethau ar Wasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy ar gyfer Cymru: Fframwaith Gweithredu a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).