Ein gweledigaeth fel llais arweinwyr proffesiynol a strategol gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru yw i ddiogelu pob unigolyn ac i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i llesiant ac annibyniaeth pobl sy’n derbyn gofal a chymorth, trwy:
- dadlau yr achos dros wasanaethau gofal cymdeithasol cryf ac ymatebol
- rhoi rheolaeth wirioneddol a llais cryfach i bobl
- galluogi pobl i fyw eu bywydau yn llawn a chyflawni’r hyn sy’n bwysig iddynt trwy ganolbwyntio ar wasanaethau ataliol a chymorth
- adeiladu ar gryfderau dinasyddion a chryfderau’r bobl sydd o’u cwmpas, yn arbennig mewn perthynas â diogelu a chyfrifoldeb personol
- cefnogi datblygiad proffesiynol ein gweithlu gofal cymdeithasol i ddarparu’r lefel uchaf o ofal a chymorth i’n dinasyddion.
Fel sefydliad aelodaeth, ein rôl yw cefnogi a chynorthwyo datblygiad proffesiynol a dealltwriaeth aelodau ADSS Cymru a’u cefnogi i ddarparu cyngor proffesiynol ar gyfer aelodau cabinet ac arweinwyr ar draws llywodraeth leol.