Mae ADSS Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid a rhanddeiliaid eraill, e.e. Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i sicrhau y gweithredir polisi cenedlaethol a newidiadau dilynol i wasanaethau’n effeithiol, gan chwarae rhan allweddol wrth drosi’r rhethreg yn realiti. Wrth gyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, trosglwyddwyd nifer fawr o ddatblygiadau polisi yn statudau, ac mae ADSS Cymru yn parhau i chwarae rhan ganolog wrth gefnogi’r gwaith o weithredu’r Ddeddf a nodi’r meysydd hynny o ddyfeisgarwch.
Mae enghreifftiau diweddar yn cynnwys ein gwaith gyda’r canlynol:
- Y Fframwaith Maethu Cenedlaethol
- Y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol
- Y gwaith o gyflwyno System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru
- Dull cenedlaethol ar gyfer Gwasanaeth Eiriolaeth Statudol i Blant
- Cydlynu gweithgarwch awdurdodau lleol a rhanbarthol wrth gefnogi’r gwaith o weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.