Mae grŵp Penaethiaid Gwasanaethau i Oedolion Cymru Gyfan yn cynnwys penaethiaid gwasanaethau i oedolion o bob awdurdod lleol ac yn cwrdd pedwar gwaith y flwyddyn (gan gynnwys y gynhadledd blynyddol) i drafod y problemau hynny sy’n cyfrannu at allu’r gwasanaethau i ddarparu’n effeithiol ar gyfer oedolion, ac yn arbennig pobl hŷn.
Mae’r trafodaethau Cymru gyfan hyn yn galluogi uwch-staff i rannu arfer gorau ac ystyried sut y mae gwasanaethau i oedolion yn newid ledled Cymru. Bydd y grŵp yn canolbwyntio ar amrediad o faterion strategol yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf, gan gynnwys ymgorffori Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, archwilio’r newidiadau sydd eu hangen wrth ddarparu gofal cartref a phreswyl, ac ymateb i’r heriau wrth ddarparu gofal a chymorth i nifer gynyddol o’r boblogaeth hŷn sydd â dementia.