Wrth sôn am y pwysau ym maes gofal cymdeithasol, dywedodd Jonathan Griffiths, Llywydd ADSS Cymru:
‘Rydym yn cydnabod fod y system gyfan yn wynebu cryn her. Mae gwaith recriwtio yn ein sector yn broblem fawr ar hyn o bryd. Rydym yn parhau i gefnogi ein gweithlu a'r rhai sydd am ymuno â'r proffesiwn, i sicrhau bod gennym yr amodau, y capasiti a'r adnoddau cywir yn y system i ddiogelu pobl agored i niwed yn ein cymunedau.’
‘Cynnal trefniadau diogelu cadarn yw dyletswydd sylfaenol ein haelodau a'u prif ddyletswydd. Yn ystod y pandemig, yn dilyn asesiad risg ac er gwaethaf goblygiadau'r gweithlu, gwnaeth llawer o staff barhau i weithio wyneb yn wyneb.’
‘Mae gweithwyr y rheng flaen yn parhau i weithredu dan bwysau aruthrol oherwydd y galw cynyddol am wasanaethau ar draws gwasanaethau cymdeithasol plant ac oedolion. Mae diogelu a chefnogi llesiant plant, oedolion a'u teuluoedd yn fater o bwys i bawb, ac mae'n gofyn am ymateb amlasiantaeth a chymunedol. Rhaid rhoi cymorth llawn i'n gweithlu i amddiffyn pobl agored i niwed. Mae ADSS Cymru yn ymrwymedig i barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol i drawsnewid a gwella gwasanaethau ar draws sbectrwm gofal cymdeithasol.’