Cynhadledd Genedaethol Gofal Cymdeithasol
Cipolwg ar wybodaeth
- Dyddiad: 19/11/2020 - 20/11/2020
- Amser: 3:00 pm - 2:00 pm
- Lleoliad: Ar lein
Disgrifiad
Mae gennym bleser i gyhoeddi y bydd Cynhadledd Genedlaethol Gofal Cymdeithasol Cymru yn digwydd ar-lein eleni.
Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar gydnabod ymdrechion rhagorol gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal sydd wedi parhau i ddarparu gofal a chymorth hanfodol trwy gydol y pandemig covid; ac yn edrych ymlaen at ail-sefydlogi'r sector, bwrw ymlaen ag arferion newydd positif a chydweithio i adeiladu gwasanaethau gofal sy'n addas ar gyfer y dyfodol.
Ewch i'n gwefan cynhadledd annibynnol i gael mwy o fanylion am y rhaglen.
Bydd manylion ar sut i gofrestru ar gyfer y digwyddiad yn cael eu postio yn fuan.