Mae ADSS Cymru yn gwahodd pobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru yn ystod Pandemig Covid-19 i rannu eu profiadau
Os ydych wedi defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru yn ystod y Pandemig, mae ADSS Cymru yn eich gwahodd i rannu eich profiadau yn ein harolwg byr ar-lein.
Gallwch lenwi'r arolwg, a fydd yn cymryd tua phum munud i'w gwblhau, drwy glicio yma. Mae'r arolwg yn gwbl ddienw.
Llenwch y fersiwn Hawdd ei Ddeall o'r arolwg yma.
Mae'r arolwg hwn yn rhan o adolygiad sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd gan ADSS Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, i'r ffordd y mae gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi bod yn gweithio yn ystod pandemig Covid-19 yng Nghymru.
Bydd yr adolygiad hwn yn helpu gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru i ddeall mwy am yr hyn a weithiodd yn dda a ble y gellid bod wedi gwella gwasanaethau dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Bydd hefyd yn dweud wrth Lywodraeth Cymru am yr hyn sy'n bwysig i bobl sy'n cael gofal cymdeithasol a'u gofalwyr a'u teuluoedd.
ADSS Cymru, sydd yn cynnal yr arolwg gyda chefnogaeth Practice Solutions Ltd.