LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO
Mae Darparwyr Gofal Cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn a gofalu am y dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau. Mae'r rhain yn amseroedd heriol ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gwerthfawrogi popeth rydych chi'n ei wneud i gadw pobl yn ddiogel.
Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.
Nod y briff hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.
Pwnc | Manylion | Dolen |
Defnyddio cyfarpar diogelu personol – ar gyfer y byddar a'r rhai sydd wedi colli eu clyw | Mae Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru, yr Athro Chris Jones, wedi cyhoeddi llythyr sy'n mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd gan sefydliadau sy’n cynrychioli’r boblogaeth fyddar a thrwm eu clyw fod defnyddio masgiau yn ystod y pandemig yn creu anawsterau i bobl wrth gael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal.
Mae'r llythyr, sydd at sylw darparwyr gofal cymdeithasol, cyfarwyddwyr meddygol a chyfarwyddwyr nyrsio byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd lleol, yn cynnwys rhestr o egwyddorion allweddol ynghylch defnyddio cyfarpar diogelu personol ac yn nodi pwysigrwydd rhoi ystyriaeth i gyfathrebu'n ddiogel er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu derbyn y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd eu hangen arnynt. | |
Mae angen gwirfoddolwyr ar gyfer astudiaeth brechlyn COVID-19
| Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn recriwtio nawr ar gyfer astudiaeth brechlyn COVID-19, dan arweinyddiaeth Prifysgol Rhydychen, sy'n ceisio dod o hyd i frechlyn diogel y gellir ei ddefnyddio i greu ymatebion imiwnedd yn erbyn y feirws ac atal y clefyd. Mae tîm yr astudiaeth yng Nghymru yn gobeithio recriwtio staff sy'n gweithio o fewn gofal cymdeithasol sy'n byw mewn ardaloedd cod post penodol yng Nghaerdydd a Chasnewydd. Maent yn chwilio am wirfoddolwyr iach o’r staff sy'n 18 oed ac yn hŷn sydd mewn cysylltiad â phobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth. | Dylai staff sydd â diddordeb mewn helpu i |
Datganiadau a Newyddion Llywodraeth Cymru | ||
Gwasanaethau cymdeithasol plant yn ystod y pandemig COVID-19: canllawiau
| Ar 22 Mai, ailgyhoeddwyd canllaw gweithredol diwygiedig gan Lywodraeth Cymru ynghylch darparu gofal cymdeithasol i blant ar gyfer awdurdodau lleol a phartneriaid sy'n ymwneud â diogelu plant. Mae'r canllaw hwn yn helpu awdurdodau lleol a phartneriaid i barhau i ddarparu cefnogaeth effeithiol i blant sy'n agored i niwed ac sydd mewn perygl a phlant â phrofiad o fod mewn gofal, wrth gynnal eu dyletswyddau statudol, yn ystod argyfwng y coronafeirws. Mae'r canllawiau diwygiedig yn nodi'r mesurau y dylid eu rhoi ar waith i leihau effaith y pandemig, gan gynnwys trin asesiadau meddygol maethu. | https://llyw.cymru/gwasanaethau-
|
Diweddariad i’r diagram esboniadol ar gyfer hunanynysu
| Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei diagram (a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar 21 Mawrth) sy’n esbonio sawl diwrnod y dylid aros gartref ar gyfer senarios gwahanol. |
|
Canllawiau -Defnyddio’r prawf gartref coronafeirws | Sut i ddefnyddio’r prawf gartref coronafeirws os ydych yn credu bod gyda chi’r coronafeirws.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd plant o dan 5 oed yn awr yn gymwys i gael eu profi hefyd, a bydd hyn hefyd yn berthnasol yng Nghymru. Byddwn yn cyhoeddi canllawiau ac yn diwygio ein polisi ar weithwyr hanfodol i adlewyrchu hyn. Bydd hyn yn golygu y gall pecynnau profi cartref gael eu darparu ar gyfer plant o dan 5 oed ledled Cymru. | |
Profi am y coronafeirws: diweddariadau wythnosol | Yn cynnwys y nifer a chanlyniadau profion y coronafeirws a ble cawsant eu profi. | https://llyw.cymru/profi-am- |
Canllawiau - Rhan y Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd mewn adfer iechyd yn ystod ac ar ôl COVID-19 | Mae'r datganiad hwn yn amlinellu blaenoriaethau strategol cyfunol ein pedair gwlad a'n hymagwedd at arweinyddiaeth adsefydlu AHP yn ystod ac ar ôl COVID-19. | |
Lansio asesiad risg i gefnogi gweithwyr duon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig | Mae asesiad risg newydd wedi cael ei lansio i helpu i gefnogi unigolion o gefndir pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gofal cymdeithasol yng Nghymru. DIWEDDARIAD 29 Mai: Mae’r Adnodd asesu risg COVID-19 ar gyfer y gweithlu nawr ar gael o wefan y Llywodraeth. | https://llyw.cymru/cefnogi-
https://llyw.cymru/adnodd-asesu-risg-covid-19-ar-gyfer-y-gweithlu |
Datganiad Ysgrifenedig: Adnodd Asesu Risg COVID-19 Cymru Gyfan ar gyfer y Gweithlu | Mae Prif Weinidog Cymru yn rhoi gwybod am y dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg sy’n awgrymu bod unigolion o gefndir pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yn cael eu heffeithio’n anghymesur gan bandemig y coronafeirws. | https://llyw.cymru/datganiad- |
Canllawiau profi cartrefi gofal | Canllawiau a gyhoeddwyd ar ddull Llywodraeth Cymru ar gyfer profi mewn cartrefi gofal. | |
Datganiad Ysgrifenedig: Profi, Olrhain, Diogelu | Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu diweddariad ysgrifenedig i’r aelodau ar y cynnydd o safbwynt gweithredu ein strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu. | https://llyw.cymru/datganiad- |
Datganiad Ysgrifenedig: Coronafeirws a hawliau pobl hŷn | Mae’r Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar hawliau pobl hŷn a’r coronafeirws. Mae’n hanfodol ein bod yn cydweithio i greu cymdeithas fwy cyfartal sy’n cynnal hawliau dynol ac yn galluogi unigolion o bob oed i wireddu eu potensial beth bynnag y bo eu cefndir neu eu hamgylchiadau. | https://llyw.cymru/datganiad-
|
Sicrhau bod Gwasanaethau Cymunedol o’r Maint Cywir ar gyfer Rhyddhau Cleifion | Yn 2019/20, gweithiodd Uned Gyflawni GIG Cymru a’r Athro John Bolton gyda Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ar y prosiect cenedlaethol ‘Right-sizing Community Services for Discharge’. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o’r canfyddiadau cenedlaethol ac yn gwneud argymhellion ar gyfer y dyfodol. Fe’i gyhoeddir nawr oherwydd bod yr argymhellion yn berthnasol i’r ymateb presennol i’r pandemig COVID-19, a bydd yn cefnogi adferiad y system yn y dyfodol. |
Llythyr am Adroddiad Cenedlaethol
Saesneg yn unig: Right-sizing Community |
Gofal Cymdeithasol Cymru | ||
Buddion y cerdyn gweithiwr gofal cymdeithasol
| Gallwch weld rhestr lawn o'r buddion sydd ar gael gyda'r cerdyn gweithiwr gofal cymdeithasol, sydd â'r nod o helpu gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru i brofi eu bod yn weithwyr allweddol, ar ein tudalennau Cwestiynau Cyffredin. Gwiriwch nôl yn rheolaidd er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf. | https://gofalcymdeithasol.cymru |
Care Home Cwtch
| Mae Care Home Cwtch yn rhwydwaith cymorth digidol newydd ar gyfer rheolwyr cartrefi gofal yng Nghymru. Mae'r Cwtch ar gyfer rheolwyr cartrefi gofal i oedolion yn unig ac mae'n cyfarfod bob dydd Mercher er mwyn:
Cynhelir Cwtch mewn partneriaeth gan Gwelliant Cymru, Age Cymru, Cofio Dementia Training a Gofal Cymdeithasol Cymru, ac mae'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru. | Er mwyn ymuno, e-bostiwch dementia@gofalcymdeithasol.cymru |
Porth swyddi Gofalwn Cymru
| Cyflogwyr gofal cymdeithasol: rydym am helpu i fynd i'r afael â'r broblem prinder staff y gallech fod yn ei hwynebu ar hyn o bryd. Er mwyn eich helpu i ddod o hyd i'r bobl iawn i lenwi'ch swyddi gwag a chefnogi'ch busnes, rydym wedi creu porth swyddi a fydd yn rhestru swyddi gofal cymdeithasol cyfredol yng Nghymru. Postiwch eich swyddi gwag ar Twitter gan gynnwys y manylion canlynol:
| https://www.gofalwn.cymru/?_ga=2.120067016.1518726918.1590593704-612381641.1589908947
|
Dolenni links / Useful links:
Gofal Cymdeithasol Cymru – tudalennau gwe COVID-19 https://gofalcymdeithasol.cymru/gwella-gwasanaethau/gwybodaeth-ac-adnoddau-ich-tywys-trwy-covid-19 | Social Care Wales – Covid-19 web pages: https://socialcare.wales/service-improvement/information-and-resources-to-guide-you-through-covid-19 |
ADSS Cymru – Support for Commissioned Providers | ADSS Cymru – Cefnogaeth i Ddarparwyr a Gomisiynwyd |
Public Health Wales, Daily 2pm Statements: | Iechyd Cyhoeddus Cymru, Datganiadau Dyddiol am 2yp: |
Care Inspectorate Wales, FAQs: | Arolygaeth Gofal Cymru, Cwestiynnau Cyffredin: https://arolygiaethgofal.cymru/coronafeirws-covid-19-cwestiynau-cyffredin |