Mae ADSS Cymru wedi ymrwymo i gefnogi gwaith Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru.
Ydych chi wedi profi, neu weld neu glywed hiliaeth tra'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru?
Rydym yn eich gwahodd i rannu eich profiadau gyda ni, yn gwbl ddienw ac yn gyfrinachol. Gall unrhyw un sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol nawr neu sydd wedi gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn y gorffennol rannu eu barn.
Gallwch rannu eich profiadau trwy lenwi ein harolwg ar-lein dienw, yma: Gofal Cymdeithasol: Mewnwelediad i brofiadau'r gweithlu Gallwch hefyd drefnu sgwrs gyfrinachol un-i-un gydag aelod o'n tîm prosiect, y mae rhai ohonynt o gefndir ethnig lleiafrifol. Anfonwch e-bost i cyswllt@adss.cymru i drefnu hyn.
Bydd y profiadau a rannwch yn llywio adroddiad, sydd wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru. Nod yr adroddiad yw nodi maint a natur y problemau a wynebir gan staff o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Bydd yr adroddiad hefyd yn gwneud argymhellion i fynd i'r afael â'r materion hyn. Ni fydd unrhyw ddata personol neu wybodaeth a allai ddatgelu pwy yw unigolyn yn cael eu hadrodd.
Nod yr adroddiad yw sicrhau nad yw pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn profi rhwystrau i gyflogaeth a gyrfa mewn gofal cymdeithasol, a pholisi dim goddefgarwch ar hiliaeth.
Rydym wedi cael ein comisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynhyrchu’r adroddiad hwn. Mae'r adroddiad hwn yn rhan o Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru Llywodraeth Cymru.
Rydym yn awyddus i glywed y profiad byw o:
- Staff â chefndir lleiafrifoedd ethnig sy’n gweithio i awdurdodau lleol, a darparwyr yn y sector annibynnol a’r trydydd sector (gan gynnwys gweithwyr asiantaeth)
- Unrhyw aelod o staff sydd wedi clywed neu arsylwi ar hiliaeth neu sylwadau hiliol yn y gwaith
Cwestiynau
Os oes gennych chi neu unrhyw gydweithwyr unrhyw gwestiynau am y prosiect, cysylltwch cyswllt@adss.cymru
Mwy o wybodaeth
Darparu Gofal Cymdeithasol mewn Cymru Wrth-Hiliol