Dysgwyr cyntaf yn dechrau cymhwyster Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol newydd City and Guilds
Mae’r consortiwm Ymarferwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (SSP) yn grŵp o 14 awdurdod lleol a 3 darparwr dysgu yn Ne Cymru, sydd wedi dod at ei gilydd i gyflwyno’r cymhwyster SSP lefel 4 newydd City and Guilds.
Mae’r cymhwyster cael ei ariannu’n llawn o dan y rhaglen brentisiaeth, ac yn annelu darparu’r gwybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar ymarferwyr yn eu rôl cymorthi gwaith cymdeithasol, gan roi cyngor a chwblhau agweddau amrywiol ar gynllunio gofal a chymorth.
Mae'r garfan gyntaf o 45 o ddysgwyr wedi'u recriwtio, a byddant yn dechrau eu dysgu ym mis Chwefror. Disgwylir iddo gymryd 18 mis i 2 flynedd i'w gwblhau.
Mae’r cymhwyster wedi’i gymeradwyo gan Gofal Cymdeithasol Cymru fel cymhwyster cyfwerth â blwyddyn gyntaf gradd Gwaith Cymdeithasol, a felly yn darparu llwybr ychwanegol i Waith Cymdeithasol i’r rhai sy’n dymuno symud ymlaen.
I gael gwybod mwy am y cymhwyster cysylltwch â karen.wakelin@gofalcymdeithasol.cymru