Ym mis Ebrill 2021, cynhaliodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru fforwm drafod ar hawliau pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal. Nod y fforwm drafod oedd rhoi cyfle i drafod ac archwilio'r heriau a wynebir gan bobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal (a'u teuluoedd a'u ffrindiau) ac i ba raddau y mae hawliau preswylwyr yn cael eu cynnal. Bwriad y trafodaethau hyn oedd nodi'r newidiadau ymarferol sydd eu hangen yn y tymor byr a nodi unrhyw newid tymor hir sydd ei angen i gefnogi ac ymestyn hawliau pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal. Daeth y fforwm drafod â sefydliadau o bob rhan o'r DU at ei gilydd, gan gynnwys:
• Age Cymru
• Age UK
• Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
• Fforwm Gofal Cymru • Arolygiaeth Gofal Cymru
• Comisiynydd Pobl Hŷn Gogledd Iwerddon
• Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru
• Cymdeithas Perthnasau a Phreswylwyr
• Scottish Care
• Gofal Cymdeithasol Cymru
• Fforwm Gofal Cenedlaethol
Cynhaliwyd cyfarfodydd dilynol i drafod y camau yr oedd eu hangen ac i ddatblygu cynllun gwaith ar gyfer datblygu'r gwaith hwn. Er bod Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn parhau i hwyluso'r cyfarfodydd hyn, mae'r holl sefydliadau dan sylw yn gydberchnogion o’r rhaglen waith.