Mae bod yn weithiwr cymdeithasol yn wych. Pan rydyn ni’n cael pethau’n iawn, rydym yn gallu trawsnewid bywydau pobl mewn ffordd y gall dim ond ychydig o broffesiynau.
Mi ddos i i’r proffesiwn ar y llwybr traddodiadol – drwy secondiad o’m rôl fel gweithiwr cymdeithasol preswyl ym 1990. Roedd Llywodraeth Leol yn darparu llwybr nad oedd yn gofyn am Lefel A ond pwynt mynediad i addysg uwch i bobl a allai arddangos sgiliau gyda phobl, y gallu i addasu, creadigrwydd, ymrwymiad i bractis gwrth-wahaniaethol ac, yn hollbwysig, dymuniad i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl a oedd yn agored i niwed. Roedd yn canolbwyntio lai ar academia a mwy ar set allweddol o sgiliau a oedd wedyn yn cael eu mireinio a’u profi’n academaidd ac wrth fynd ar leoliadau gwaith.
Ar y lleoliadau yr oedd gweithwyr cymdeithasol yn dysgu sut i ddefnyddio’r sgiliau hyn, i siarad ar ran person hŷn, cael caniatâd i fynd drwy’r drws gan riant drwgdybus i gadw llygad ar les plentyn; sut i siarad gyda phlentyn mewn trallod. Yn allweddol, ar leoliad dysgais sut i feddwl am, a dysgu o ‘nghamgymeriadau. Ni fydd y rhan fwyaf o bobl 20 oed sy’n dod yn weithwyr cymdeithasol yr hyn a wnes i a threulio 30 o flynyddoedd yn y proffesiwn. Bydd llawer yn newid gyrfa nifer o weithiau, ond mae’r gallu i ddysgu, adlewyrchu a chysylltu gyda phobl yn sgiliau y gellir eu defnyddio ar draws pob lleoliad gwaith.
Mae gwaith cymdeithasol yn cael effaith ddofn ar fywydau pobl. Mae gwneud y gwaith yn dda yn gallu golygu’r gwahaniaeth rhwng plentyn yn cael ei symud o’i deulu, person hŷn yn marw yn yr ysbyty yn hytrach nag yn ei gartref, neu rywun gydag anabledd yn byw mewn sefydliad yn hytrach na gallu bod yn rhan o’r gymuned leol. Mae hwn yn gyfrifoldeb mawr ac yn esbonio, yn rhannol, yr heriau lle mae angen i ni berswadio pobl i ymuno â’r proffesiwn.
Nid yw gwaith cymdeithasol, wrth gwrs, yn bodoli mewn gwagle. Mae gwaith integredig, polisïau cenedlaethol, diwylliant, tlodi ac adnoddau oll yn chwarae rhan i wneud rôl gwaith cymdeithasol yn un hawdd neu anodd i’w chyflawni. Mae Cymru ar daith i greu’r amgylchedd polisi priodol er mwyn i waith cymdeithasol ffynnu. Serch hynny, mae’n daith sy’n symud yn bendant yn y cyfeiriad iawn, gydag ystod o fentrau a pholisïau sy’n pwyntio at werthfawrogi’r proffesiwn. Mae symudiadau cadarnhaol yn cynnwys:
- Proses o arolygu achosion cenedlaethol nad yw’n ceisio beio, yn syml, ond dysgu gwersi o achosion lle mae rhywbeth wedi mynd o’i le
- Amddiffyniad cymharol ar gyfer adrannau dros 10 mlynedd o lymder o gymharu â chydweithwyr llywodraeth leol yn Lloegr
- Arolygiaeth sy’n ceisio deall profiadau defnyddwyr o’r gwasanaethau yn hytrach na cheisio sgorio adrannau gwaith cymdeithasol
- Deddfwriaeth sy’n ymgorffori rhwystro a lleisiau defnyddwyr wrth graidd cymryd penderfyniadau
- Bwriad i ail-gydbwyso’r sector gofal i sicrhau bod llywodraeth leol yn ddarparwr ac yn gomisiynydd gwasanaethau hanfodol. Mae’r cyllid a ddarparwyd drwy gydol y pandemig i ddarparwyr ar draws y sector wedi ei ddarparu ar lefel digynsail.
Fodd bynnag, er gwaethaf y symudiadau blaengar hyn, mae llawer i ni ei wneud o hyd. Mae gan Gymru, o hyd, un o’r cyfraddau uchaf o fynd â phlant oddi ar eu teuluoedd yn y byd gorllewinol, a phoblogaeth o oedolion sy’n agored i niwed nad yw eu lleisiau bob amser yn cael eu clywed yn y penderfyniadau sy’n cael effaith uniongyrchol ar eu bywydau. Dylai gweithwyr cymdeithasol fod yn gefnogwyr allweddol newid yng Nghymru er mwyn cymryd y camau nesaf yma. Yn enwedig lle mae tlodi yn aml ynghlwm wrth achosion esgeulustra, mae angen i ni sefydlu gwell cymorth a gwaith monitro o deuluoedd sy’n agored i niwed er mwyn lleihau’r lefelau uchel presennol o blant sy’n cael eu tynnu o ofal eu rhieni.
I wneud y gwaith cymhleth yma yn dda, mae gwaith cymdeithasol angen buddsoddiad pellach er mwyn galluogi beichiau gwaith llai, system TG sy’n hawdd eu defnyddio a modelau cliriach o ymyrraeth gwaith cymdeithasol. Mae ein timau yn haeddu gweithio mewn sefydliadau sy’n cefnogi eu lles, gydag arweinwyr effeithiol a rheolwyr sy’n eu grymuso i gymryd risgiau pwyllog wrth gefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed yn y gymuned. Os gallwn barhau i wneud cynnydd yn y meysydd hyn, gall gwaith cymdeithasol yng Nghymru fod ymhlith y gorau yn y byd.
Diolch i bob un o’n gweithwyr cymdeithasol sydd, bob dydd, yn parhau i gynorthwyo ac amddiffyn y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.