Datganiad ar y cyd yw hwn gan ADSS Cymru ac CCAC.
Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru yw’r sefydliad arweinyddiaeth proffesiynol a strategol cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol. Rydym yn sefydliad aelodaeth, yn cynrychioli pob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.
Rôl ADSS Cymru, fel y sefydliad arweinyddiaeth cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, yw cynrychioli llais cyfunol, awdurdodol cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol a phenaethiaid gwasanaethau i oedolion a phlant, ynghyd â gweithwyr proffesiynol sy'n cefnogi plant ac oedolion sy'n agored i niwed, eu teuluoedd a’u cymunedau, ar amrediad o faterion cenedlaethol a rhanbarthol cysylltiedig â pholisïau, arferion ac adnoddau gofal cymdeithasol. Dyma'r unig gorff cenedlaethol sy'n gallu mynegi barn y gweithwyr proffesiynol hynny sy'n arwain ein gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addsyg Cymru (CCAC) yw’r grŵp proffesiynol o swyddogion awdurdodau lleol sy'n atebol am swyddogaethau addysg statudol ym mhob un o'r awdurdodau lleol yng Nghymru.
Mae gan y gymdeithas rôl hirsefydlog wrth gynghori ar ddatblygu a chyflenwi addysg a lansiadau cysylltiedig eraill yn strategol ar ran awdurdodau lleol yng Nghymru.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â contact@adss.cymru