Cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar ofal cymdeithasol gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig
Rhaglen Waith Cyflawni Grant Trawsnewid - 2021/22
Gofynnodd Llywodraeth Cymru i ADSS Cymru arwain rhaglen waith i archwilio'r defnydd o ofal cymdeithasol a chymorth gan bobl o'r cymunedau lleiafrifoedd ethnig. Y diben oedd nodi'r hyn mae'n rhaid ei wneud i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar ofal, mae’r dystiolaeth yn dangos bod hyn yn llai na'r cyfartaledd ar gyfer y boblogaeth gyfan. Ariennir y rhaglen gan raglen Grant Cyflawni Trawsnewid Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22.
Mae datganiad am yr adroddiad wedi'i gyfieithu i'r un ar ddeg o ieithoedd a ddefnyddir amlaf gan gymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, yn unol â chyngor Llywodraeth Cymru. Gellir gweld y cyfieithiadau drwy glicio ar yr hypergysylltiadau: Arabeg, Bengali, Hindi, Pwyleg, Punjabi, Rwsia, Tsieinëeg Syml, Somali, Sbaeneg, Tsieinëeg Traddodiadol, Wrdw.
Nod yr astudiaeth oedd datblygu dealltwriaeth ddyfnach a chliriach o'r rhwystrau a wynebir pan fydd angen gofal a chymorth ar bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig, y penderfyniadau a wnânt, a beth sy'n dylanwadu ar eu penderfyniadau. Mae'r canfyddiadau'n darparu'r sylfaen ar gyfer rhaglen weithredu gadarn i wella eu mynediad at ofal a chymorth cymdeithasol a'u defnydd ohonynt. Felly, bydd yn gyfraniad sylweddol at weithredu Cynllun Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru. Yn fwy penodol, ei nod oedd:
- Deall i ba raddau mae pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig yn cael gofal a chymorth pan fydd ganddyn nhw angen adnabyddadwy neu wedi'i asesu.
- Archwilio'r materion, gan gynnwys rhwystrau a heriau, sy'n gysylltiedig â phobl yn cael mynediad at ofal a chymorth.
- Nodi effaith Covid-19 ar lefelau hyder ac ymgysylltiad â'r gwasanaethau cymdeithasol.
- Archwilio'r rhwydwaith cymorth anffurfiol a ddarperir gan ofalwyr teuluol a chyfeillgarwch, a sut mae'r rhwydwaith hwn a'r gofalwyr eu hunain yn cael eu cefnogi.