LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO
Mae Darparwyr Gofal yn rhoi gefnogaeth hanfodol i'r dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau, ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn falch o’ch ymrwymiad parhaol a'ch gwaith caled.
Dylid darllen y bwletin gwybodaeth hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.
Nod y briff hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.
Pwnc | Manylion | Dolen | |
Gofal Cymdeithasol Cymru | |||
Gwobrau 2020 | Bydd seremoni wobrwyo’r Gwobrau 2020 yn cael ei chynnal yn rhithwir rhwng hanner dydd ac 1pm dydd Mawrth nesaf, 10 Tachwedd. Mae’r gwobrau yn cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu ymarfer gofal cymdeithasol ac ymarfer blynyddoedd cynnar rhagorol yng Nghymru. Bydd y rhaglen rithwir un awr, a fydd yn cael ei chyflwyno gan gyflwynydd radio a theledu Garry Owen a’n Prif Weithredwr Sue Evans, yn cael ei darlledu’n fyw dros YouTube.
Gallwch ddod o hyd i bwy yw’r 19 ysbrydoledig sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar ein gwefan yn: https://gofalcymdeithasol.cymru/gwella-gwasanaethau/y-gwobrau-2020
Bydd y rhaglen hefyd yn cael ei chyfieithu ar y pryd i Iaith Arwyddion Prydain gan Hannah Wilson a Stephen Brattan-Wilson. Gallwch wylio’r cyfieithiad Iaith Arwyddion Prydain ar y pryd yn: https://socialcarewales.zoom.us/j/99216046340?pwd=NkVvRXF2OE9WYnRwVlBSLzNibDV1UT09
| Ymunwch â ni ar gyfer y rhaglen rithwir yn: https://youtu.be/TM__2YgCD7U
|
|
Dweud eich dweud am yr hyn rydyn ni’n meddwl yw’r blaenoriaethau ar gyfer y pum mlynedd nesaf
| Rydym yn cydnabod bod angen i ofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar fod yn wahanol iawn er mwyn ymateb i newidiadau demograffig, economaidd ac anghenion cymdeithasol ymhen pum mlynedd. Credwn fod hynny’n golygu bod angen i ni, fel sefydliad, fod yn wahanol iawn hefyd.
Rydyn ni am glywed eich adborth gonest am ein blaenoriaethau arfaethedig, fel y gallwn fod yn hyderus y bydd ein cynllun pum mlynedd yn diwallu anghenion newidiol y sectorau a chefnogi’r gweithlu, cyflogwyr ac arweinwyr yn y misoedd a blynyddoedd i ddod.
Mae gennych chi tan ddydd Gwener, 13 Tachwedd i ddweud eich dweud. |
|
|
Iechyd Cyhoeddus Cymru | |||
Diweddariad i Ddangosfwrdd gwyliadwriaeth cyflym COVID-19 | Diweddarwyd dangosfwrdd gwyliadwriaeth cyflym COVID-19. Rydym wedi ychwanegu map newydd yn arddangos achosion wedi'u rhannu yn ôl lleoliad. | ||
Ymgyrch Sut wyt ti? | Mae ymgyrch ‘Sut wyt ti?’ Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig cyngor a chymorth ar ofalu amdanoch chi eich hun drwy gadw’n gorfforol iach, cadw mewn cysylltiad â phobl eraill a meddwl ac ymdopi mewn ffordd wahanol. Mae’n nodi’r sefydliadau gorau i’ch helpu gan ddibynnu ar eich sefyllfa bersonol. | https://icc.gig.cymru/pynciau/coronafeirws/sut-wyt-ti/
| |
C.A.L.L. Llinell Gymorth lechyd Meddwl ar gyfer Cymru | |||
C.A.L.L. Llinell Gymorth lechyd Meddwl ar gyfer Cymru | Llinell cyngor a gwrando cymunedol yn cynnig cefnogaeth emosiynol a gwybodaeth / llenyddiaeth ar Iechyd Meddwl a materion cysylltiedig i bobl Cymru. | ||
Llywodraeth Cymru | |||
Cynllun ychwanegiad at dâl salwch statudol ar gyfer COVID-19
|
| https://llyw.cymru/cynllun-ychwanegiad-dal-salwch-statudol-ar-gyfer-covid-19?_ga=2.104269952.1222522001.1604392522-768988515.1560846930
| |
£12.5m i gefnogi teuluoedd a phlant agored i niwed yn ystod y pandemig
| Heddiw, mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi cyhoeddi pecyn cyllid gwerth £12.5m i gefnogi plant a theuluoedd sy’n agored i niwed. | https://llyw.cymru/gefnogi-teuluoedd-phlant-agored-i-niwed-yn-ystod-y-pandemig?_ga=2.77933332.1222522001.1604392522-768988515.1560846930
| |
Canllawiau ar aelwydydd estynedig: coronafeirws
| Rheolau a fydd yn berthnasol i fod mewn aelwydydd estynedig a chyngor ar sut i ffurfio un. | https://llyw.cymru/canllawiau-ar-aelwydydd-estynedig-coronafeirws
| |
Canllawiau ar angladdau: COVID-19
| Canllawiau ar gynnal a mynychu angladdau yn ystod y pandemig coronafirus. | https://llyw.cymru/canllawiau-ar-angladdau-covid-19
| |
Ysbytai Nightingale
| Gwybodaeth am Ysbytai Nightingale. | https://llyw.cymru/atisn14384?_ga=2.175032482.1222522001.1604392522-768988515.1560846930
| |
Blychau bwyd
| Gwybodaeth am flychau bwyd a ddarparwyd i’r rhai fu’n gwarchod eu hunain yn ystod y cyfyngiadau Covid-19. |
| |
Ystadegau ac ymchwil cysylltiedig â coronafeirws (COVID-19)
| Data a'r dadansoddiad diweddaraf ar effaith coronafeirws ar gymdeithas yng Nghymru. | https://llyw.cymru/ystadegau-ac-ymchwil-cysylltiedig-coronafeirws-covid-19
| |
Datganiad Ysgrifenedig gan Mark Drakeford AS, Y Prif Weinidog
| Datganiad Ysgrifenedig: COVID-19: mesurau cenedlaethol newydd i Gymru
| https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-covid-19-mesurau-cenedlaethol-newydd-i-gymru
| |
COVID-19 – mesurau cenedlaethol newydd ar gyfer Cymru: Pobl nid rheolau sy’n allweddol i’n hymateb, medd y Prif Weinidog
| Heddiw, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford mai pobl ac nid rheolau sydd wrth wraidd ymateb Cymru i bandemig y coronafeirws, wrth iddo gyhoeddi’r mesurau newydd a fydd ar waith yng Nghymru ar ôl y cyfnod atal byr. |
| |
Deddf y Coronafeirws 2020 a gofal cymdeithasol yng Nghymru
|
Daeth yr ymgynghoriad i ben 2 Tachwedd 2020.
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Cyhoeddir manylion y canlyniad cyn hir. | https://llyw.cymru/deddf-y-coronafeirws-2020-gofal-cymdeithasol-yng-nghymru
| |
Newidiadau i amserau sesiynau ysgolion: coronafeirws
| Cyngor i ysgolion ac awdurdodau lleol ynghylch newid amseroedd sesiynau ysgolion ar gyfer tymor yr hydref 2020. | https://llyw.cymru/newidiadau-i-amserau-sesiynau-ysgolion-coronafeirws
| |
Cymorth ariannol i dalu eich biliau yn ystod y pandemig coronafeirws
| Cymorth ariannol i’ch helpu i dalu eich rhent, morgais neu filiau os ydych yn gweithio, yn hunangyflogedig, yn sâl ac yn methu gweithio, wedi colli eich swydd neu ar ffyrlo. | https://llyw.cymru/cymorth-ariannol-i-dalu-eich-biliau-yn-ystod-y-pandemig-coronafeirws
| |
Coronafeirws: cymorth ariannol i gadw eich gweithwyr
| Mae'r Cynllun Cadw Swyddi yn helpu cyflogwyr gyda chynllun PAYE i dalu costau staff.
Gall cyflogwyr gael help os na allant redeg eu busnes neu os nad oes gwaith i’r cyflogeion oherwydd y coronafeirws.
Os oes cyflogeion wedi cael eu gofyn i stopio gweithio, gellir eu cadw ar y gyflogres.
Gallai cyflogeion gael 80% o’u cyflog, hyd at uchafswm misol o £2,500.
| https://llyw.cymru/coronafeirws-cymorth-ariannol-i-gadw-eich-gweithwyr
| |
Adnodd Asesu Risg COVID-19 ar gyfer y Gweithlu – holiadur darparwr gweithredu gofal cymdeithasol
| Mae'r Grŵp Gweithredu Gofal Cymdeithasol yn uno rhanddeiliaid sy'n hyrwyddo'r defnydd o'r Adnodd Asesu Risg COVID-19 ar gyfer y Gweithlu ar draws y darparwyr yn y sector.
Mae holiadur byr, ar-lein sy'n ceisio casglu data ynglŷn â'r defnydd o'r adnodd a'i effaith ar weithwyr a fu’n gwarchod eu hunain yn flaenorol ar gael tan 21 Tachwedd.
Rydym yn annog pob un o'r darparwyr i gwblhau’r holiadur.
| Gellir gweld yr holiadur hwn ar: https://www.smartsurvey.co.uk/s/47EDBU/?lang=507101
Ceir canllawiau a chwestiynau cyffredin am yr Adnodd Asesu Risg ar: https://llyw.cymru/adnodd-asesu-risg-covid-19-ar-gyfer-y-gweithlu
|