LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO
Mae Darparwyr Gofal yn rhoi gefnogaeth hanfodol i'r dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau, ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn falch o’ch ymrwymiad parhaol a'ch gwaith caled.
Dylid darllen y bwletin gwybodaeth hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.
Nod y bwletin hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.
Pwnc | Manylion | Dolen |
Iechyd Cyhoeddus Cymru | ||
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio ei wefan wybodaeth COVID-19 | Mae meicrowefan brechlyn COVID-19 bellach yn fyw ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'n cynnwys tudalen wedi'i diogelu gan gyfrinair ar gyfer Staff Iechyd a Gofal Cymdeithasol gydag adnoddau gwybodaeth a hyfforddiant (y cyfrinair ar gyfer y dudalen honno yw: zN9dB7wG8f - peidiwch â chylchredeg yn ehangach). Y wefan hon fydd prif ffynhonnell gwybodaeth brechlyn COVID yng Nghymru. Gellir gweld dogfen Holi ac Ateb o dan ‘Ynglŷn â’r brechlyn’. | https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau
|
Gwybodaeth Curwch ffliw i weithwyr iechyd a gofal | Mae gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru / Curwch Ffliw yn cael ei diweddaru'n rheolaidd gyda gwybodaeth, newyddion ac adnoddau ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ar y ffliw a'r brechlyn ffliw. | https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/curwch
|
Llywodraeth Cymru | ||
Ymgynghoriad - Rhesymoli'r ddeddfwriaeth sy'n rheoli systemau llethu tân awtomatig mewn cartrefi gofal i blant | Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar gynigion i ddiwygio Rheoliadau Adeiladu 2010 i resymoli'r gweithdrefnau rheoleiddio sy'n goruchwylio systemau llethu tân awtomatig mewn cartrefi gofal i blant. Gwelir manylion pellach ar y ddolen ganlynol:
| https://llyw.cymru/systemau-llethu-tan-awtomatig-
|
Gorchuddion wyneb: canllawiau i'r cyhoedd
| Bydd yn orfodol i bobl wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus o dan do yng Nghymru o 14 Medi. | |
Rheoliadau coronafeirws: cwestiynau cyffredin
| Canllawiau i ddiogelu eich hun yn ystod cyfnod y coronafeirws a pha reolau sydd yn eu lle i ddiogelu pobl. | |
Ysgolion: canllawiau coronafeirws
| Newidiadau i ddysgu ac addysgu mewn ysgolion o Medi | |
Defnyddio canolfannau cymunedol amlbwrpas yn ddiogel (COVID-19)
| Canllawiau ar ailagor a defnyddio canolfannau cymunedol amlbwrpas yn ddiogel. | https://llyw.cymru/defnyddio-canolfannau- |
Datganiad Ysgrifenedig: Y wybodaeth ddiweddaraf am ddefnyddio gorchuddion wyneb mewn ysgolion a cholegau
|
Datganiad Ysgrifenedig gan Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg | |
Canllawiau ar gludiant i'r coleg: COVID-19
| Sut i gynllunio a rheoli cludiant pwrpasol ar gyfer dysgwyr addysg bellach. | https://llyw.cymru/canllawiau-ar-gludiant-i- |
Newidiadau i’r polisi ar orchuddion wyneb mewn ysgolion a cholegau | Bydd disgwyl i ddisgyblion a staff mewn ysgolion uwchradd a cholegau wisgo gorchuddion wyneb ym mhob man y tu allan i’r ystafell dosbarth ac ar gludiant i’r ysgol. | https://llyw.cymru/newidiadau-ir-polisi-ar- |
Datganiad Ysgrifenedig: Ymweld â Chartrefi Gofal: Cynllun peilot i brofi ymwelwyr a phodiau ymweld am ddim i gartrefi gofal | Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg | |
Ystadegau ac ymchwil cysylltiedig â coronafeirws (COVID-19)
| Data a'r dadansoddiad diweddaraf ar effaith coronafeirws ar gymdeithas yng Nghymru. | https://llyw.cymru/ystadegau-ac-ymchwil-cysylltiedig |
Trafnidiaeth gyhoeddus: canllawiau i weithredwyr
| Mae darparwyr trafnidiaeth yn dilyn y canllawiau hyn i ddiogelu teithwyr rhag y coronafeirws. | https://llyw.cymru/ailddechrau-trafnidiaeth- |
Gosod unedau bach dros dro i gynnal ymweliadau mewn cartrefi gofal
| Heddiw [ddydd Llun 23], cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd y byddai unedau bach dros dro yn cael eu gosod ar gyfer ymwelwyr â chartrefi gofal ledled Cymru i’w gwneud yn haws iddynt ymweld â’u hanwyliaid dros y Nadolig a misoedd y gaeaf. | https://llyw.cymru/gosod-unedau-bach-dros-dro- |
Cynllun Ad-dalu’r Gordal Iechyd Mewnfudo |
| Dolen i’r cynllun ad-dalu: https://immigration-health-surcharge-reimbursement.service.gov.uk/
Dolen i'r canllawiau, os oes angen mwy o fanylion: https://www.gov.uk/government/publications/immigration-health-surcharge-applying-for-a-refund
Nid oes fersiwn Cymraeg ar gael.
|
Ffurflenni iechyd hunanddatgan - gofalwyr maeth arfaethedig | Rydym yn ymwybodol bod ardaloedd ledled Cymru lle mae gofalwyr maeth arfaethedig yn parhau i gael problemau wrth gael mynediad at asesiadau iechyd gan y meddyg teulu. Yn ddiweddar, rydym wedi cwrdd â chynrychiolwyr i drafod sut y gallwn gadw'r system gofal maeth i lifo gan ganolbwyntio o hyd ar ddiogelu plant, lleihau'r amhariad ar y broses faethu a chynnal digon o leoliadau gofal maeth. O ganlyniad i drafodaethau, rydym wedi rhoi newidiadau ar waith yng nghyswllt y defnydd o'r ffurflen iechyd hunanddatgan. Ceir manylion yn y llythyr atodedig. | Saesneg yn unig |
Canllawiau byw â chymorth: coronafeirws | Canllawiau ar sut gall pobl sy’n byw â chymorth weld eu teulu a’u ffrindiau a chadw’n saff gyda’u gweithwyr cymorth a gofal. | |
Arolygiaeth Gofal Cymru | ||
Cyhoeddi adroddiad blynyddol Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ar gyfer 2019-20 | Mae AGC wedi cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ei Brif Arolygydd ar gyfer 2019-20, sy'n amlinellu ei gwaith yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol.
Yn ogystal ag amlinellu'r gwaith a gwblhawyd i wella gofal yng Nghymru, mae'r adroddiad yn cydnabod effaith COVID-19 ar bobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol gwasanaethau a gofal plant yng Nghymru ac yn gweithio ynddynt. |
|
CIRCLE (Centre for International Research on Care, Labour and Equalities) | ||
Papurau ymchwil CIRCLE ar ofalu | Mae'r Ganolfan Ymchwil Ryngwladol ar Ofal, Llafur a Chydraddoldebau wedi cyhoeddi cyfres o bapurau ymchwil yn ymwneud â gofalu a COVID-19, gan gynnwys: • Gofalu a COVID-19 • Gofalu wrth gloi: Heriau a chyfleoedd i gefnogi gofalwyr yn ddigidol | Saesneg yn unig http://circle.group.shef.ac.uk/sustainable-care
|