LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO
Mae Darparwyr Gofal yn rhoi gefnogaeth hanfodol i'r dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau, ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn falch o’ch ymrwymiad parhaol a'ch gwaith caled.
Dylid darllen y bwletin gwybodaeth hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.
Nod y bwletin hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.
Pwnc | Manylion | Dolenni |
Gofal Cymdeithasol Cymru | ||
Grŵp Cymorth Cymheiriaid – Dod drwyddi gyda’n gilydd | Gweler isod manylion ynglŷn â'n rhwydwaith cymorth ar-lein newydd. Mae’r grŵp cymorth hyn i’r rhai ohonoch sy’n gweithio mewn gofal ac wedi cael profiad o brofedigaeth yn eich gweithle yn ystod y cyfnod yma, a angen ychydig o le arno i siarad amdano. Gallwch gysylltu ag eraill sydd wedi cael profiadau tebyg mewn lle cyfrinachol.
Mae hwn yn bartneriaeth rhwng Gofal Cymdeithasol Cymru, Age Cymru, Ffowm Gofal Cymru a Hosbis y Cymoedd.
Os oes angen mwy o wybodaeth neu cadw lle, anfonwch e-bost at asha.hassan@gofalcymdeithasol.cymru | |
Llywodraeth Cymru | ||
Datganiad Ysgrifenedig: Adolygiad o’r Cynllun Cymorth Hunanynysu ac argymhellion
| Julie James AS, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol | https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-adolygiad-or-cynllun-cymorth-hunanynysu-ac-argymhellion |
Staff ysgolion a'u cyflogaeth: coronafeirws
| Gwybodaeth am staff ysgolion a'u cyflogaeth yn ystod y pandemig coronafeirws. | https://llyw.cymru/staff-ysgolion-au-cyflogaeth-coronafeirws |
Ysgolion: canllawiau coronafeirws
| Newidiadau i ddysgu ac addysgu mewn ysgolion. | |
Lleoliad heintiadau COVID-19
| Nifer y bobl sy’n dal COVID-19 mewn lleoliadau penodol | |
Gadael eich cartref a gweld pobl eraill: lefel rhybudd 4
| Rheolau ar gyfarfod pobl tu allan i'ch cartref ar lefel rhybudd 4. | https://llyw.cymru/gadael-eich-cartref-gweld-pobl-eraill-lefel-rhybudd |
Ymweld â phobl mewn cartrefi preifat: lefel rhybudd 4
| Rheolau pan fyddwch mewn swigen gefnogaeth a phryd rydych yn cael gweld pobl eraill yn eu cartrefi nhw a’ch cartref chi (lefel rhybudd 4). | https://llyw.cymru/ymweld-phobl-mewn-cartrefi-preifat-lefel-rhybudd-4 |
Deddfwriaeth coronafeirws: cyfyngiadau ar unigolion, busnesau ac eraill
| Rheoliadau i roi cyfyngiadau ar unigolion, busnesau ac eraill i ddiogelu iechyd cyhoeddus. | https://llyw.cymru/deddfwriaeth-coronafeirws-cyfyngiadau-ar-unigolion-busnesau-ac-eraill |
Rhaglen Cymorth i Weithwyr | Mae'r Rhaglen Cymorth i Weithwyr wedi bod ar waith ers 4 Rhagfyr 2020, gan gynnig ystod o gymorth llesiant i'r rhai sydd wedi'u cyflogi yn y gweithlu gofal cymdeithasol yn y sectorau preifat a gwirfoddol yng Nghymru.
Cynigir y Rhaglen Cymorth i Weithwyr gan Care First, sy'n cyflogi cynghorwyr ac arbenigwyr gwybodaeth sydd â chymwysterau proffesiynol. Maent yn meddu ar brofiad o helpu pobl i ddelio â phob math o faterion ymarferol ac emosiynol sy'n gysylltiedig â llesiant, materion teuluol, cydberthnasau, rheoli dyled, y gweithle, a llawer mwy.
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Cynhelir gweminar ar y Rhaglen Cymorth i Weithwyr, ar gyfer pob rheolwr ym maes gofal cymdeithasol o'r sectorau preifat a gwirfoddol yng Nghymru. Digwyddodd y digwyddiad byw ar 17 Chwefror ond gallwch gwylio’r y recordiad trwy gwblhau'r manylion cofrestru trwy'r ddolen ganlynol. | Gofal Cymdeithasol Cymru - Adnoddau Cymorth Iechyd a Llesiant
|
Arolygaeth Gofal Cymru | ||
Neges Eglurhaol ynglŷn â Fideo’r Gweminar Rheoli ac Atal Heintiau
| Cafodd gweminar Rheoli ac Atal Heintiau ei chynnal gan gydweithwyr o Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 3 Chwefror, wedi’i thargedu’n bennaf at ddarparwyr cartrefi gofal. Cafodd gwybodaeth ei rhannu yn ystod y gweminar am y ddogfen sy’n cynnwys rhestr wirio enghreifftiol Rheoli ac Atal Heintiau a luniwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer darparwyr, a chafwyd crynodeb o weithdrefnau allweddol Rheoli ac Atal Heintiau a sesiwn holi ac ateb gyda swyddogion o Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae fideo wedi’i gynhyrchu o’r gweminar fel cymorth hyfforddi a gwybodaeth ar gyfer darparwyr cartrefi gofal. Mae’r fideo hwn ar gael i’w weld ar sianel YouTube Llywodraeth Cymru drwy ddilyn y ddolen isod https://youtu.be/u-Ayx176Etw
Os oes gennych adborth penodol a fyddech cystal â’i rannu â Paul Lewis yn Llywodraeth Cymru (paul.lewis2@llyw.cymru) |
|