Mae Darparwyr Gofal yn rhoi gefnogaeth hanfodol i'r dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau, ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn falch o’ch ymrwymiad parhaol a'ch gwaith caled.
Dylid darllen y bwletin gwybodaeth hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.
Nod y bwletin hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.
Pwnc | Manylion | Dolen |
Gofal Cymdeithasol Cymru | ||
Rydym eisiau clywed eich barn ar iechyd a lles ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol | Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn gofalu am y gweithlu gofal cymdeithasol ac rydym wedi rhoi iechyd a lles wrth galon strategaeth ein gweithlu.
Rydym yn datblygu fframwaith i osod safonau clir a mesuradwy ar gyfer sut y dylech gael eich diogelu, ac wedi comisiynu Practice Solutions er mwyn cysylltu â phob rhan o’r gweithlu i gasglu eich barn a’ch syniadau.
Mae yna sawl ffordd y gallwch chi roi eich barn, gan gynnwys: 1) trwy gymryd rhan mewn digwyddiadau rhithwir sy'n cael eu cynnal tan 15 Rhagfyr, 2) trwy gynnal trafodaethau tîm, 3) cwblhau arolwg. Ewch i wefan Practice Solutions i ddarganfod mwy. Mae eich barn chi’n bwysig ac rydym am glywed eich safbwynt chi. | https://www.practicesolutions-ltd.co.uk/en/page/scw-wellbeing
|
Iechyd Cyhoeddus Cymru | ||
Gwefan wybodaeth COVID-19 Iechyd Cyhoeddus Cymru – diweddariad cyfrinair i staff | Sylwch, oherwydd problemau gyda microwefan Coronafirws Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r cyfrinair ar gyfer y dudalen Staff Iechyd a Gofal Cymdeithasol bellach wedi'i newid. Cyfrinair staff iechyd a gofal: vGyFH8puj3nt (peidiwch â chylchredeg yn ehangach). | https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-
|
Settled.org | ||
Cefnogaeth i Ddinasyddion yr UE ar gael trwy Settled.org | Rhaid i ddinasyddion yr UE / AEE wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE i fyw a gweithio yn y DU ar ôl 1 Ionawr 2021. Mae'r cynllun yn rhoi statws cyfreithiol iddynt sy'n amddiffyn eu hawliau dinasyddion ac yn eu galluogi i barhau i gael mynediad at wasanaethau lles. Os ydych chi'n gwybod am unrhyw un sydd angen cefnogaeth (cymydog, cydweithiwr, ffrind neu gleient) mae ein gwefan www.settled.org.uk yn darparu gwybodaeth mewn 15 iaith. Mae Settled yn darparu cyngor mewn 8 iaith dros y ffôn ac mae ganddynt bresenoldeb ar Twitter a Facebook gyda Fforymau a Gweminarau mewn gwahanol ieithoedd. Cyswllt yng Nghymru: Eva Plajerova - 07511 214678 neu eva@settled.org.uk |
|
Llywodraeth Cymru | ||
Dechrau cyflwyno brechlyn COVID-19 ledled Cymru | Heddiw [dydd Mercher 2 Rhagfyr], mae’r Prif Swyddog Meddygol wedi cyhoeddi bod y brechlyn COVID-19 cyntaf wedi cael ei gymeradwyo ac y bydd y gwaith o’i gyflwyno ledled Cymru yn dechrau ymhen dyddiau. | https://cyfryngau.gwasanaeth.llyw.cymru/newyddion/dechrau-cyflwyno-brechlyn-covid-19-ledled-cymru |
Brechiad ffliw am ddim ar gael i bobl dros 50 oed ar draws Cymru | O’r wythnos nesaf ymlaen [Dydd Mawrth 1 Rhagfyr] bydd brechiad rhag y ffliw gan GIG Cymru ar gael am ddim i unrhyw un 50 oed a throsodd. | https://llyw.cymru/brechiad-ffliw-am-ddim |
Ffurfio swigen Nadolig gyda ffrindiau a theulu | Canllawiau ar ffurfio swigen Nadolig gyda ffrindiau a theulu. | https://llyw.cymru/ffurfio-swigen-nadolig-gyda-ffrindiau-theulu |
Pedair gwlad y DU yn cytuno ar reolau newydd ar gyfer cyfnod yr ŵyl | Mae llywodraethau pedair gwlad y DU wedi cytuno ar gyfres eang o fesurau ar gyfer y DU gyfan i helpu pobl i ddod at ei gilydd gyda'u hanwyliaid yn ystod cyfnod yr ŵyl, mewn ffordd sydd mor ddiogel â phosibl. | https://llyw.cymru/pedair-gwlad-y-du-yn-cytuno |
Hysbysiadau sy'n datgymhwyso gofynion amser sesiynau ysgol sy'n newid | Yn dileu'r gofyniad dros dro i gyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol i gydymffurfio a gweithdrefnau ar gyfer newid amserau sesiynau ysgolion | https://llyw.cymru/hysbysiadau-syn-datgymhwyso |
Cynllun Cymhorthdal Incwm i Bobl Hunangyflogedig drwy gyfnod y coronafeirws
| Mae’r cynllun yn cael ei estyn o 1 Tachwedd. Bydd y grant cyntaf yn berthnasol i gyfnod o 3 mis o ddechrau mis Tachwedd hyd ddiwedd mis Ionawr.
| https://llyw.cymru/cynllun-cymhorthdal-incwm-i-bobl- |
Datganiad Ysgrifenedig: Cadwyn Gyflenwi Roche – Diweddariad
| Datganiad Ysgrifenedig gan Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig- |
Sut i hunanynysu pan fyddwch yn teithio i Gymru: coronavirus (COVID-19)
| Yr hyn y mae’n rhaid i chi ei wneud i ddiogelu Cymru rhag y coronafeirws wrth gyrraedd o wlad dramor. | https://llyw.cymru/sut-i-hunanynysu-pan-fyddwch- |
Datganiad Ysgrifenedig: Cynllunio ar gyfer cyfnod yr ŵyl
| Datganiad Ysgrifenedig gan Mark Drakeford, y Prif Weinidog | https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig |
Taflen wybodaeth am y coronafeirws: diogelu Cymru y gaeaf hwn
| Sut gallwch chi helpu i atal lledaeniad y Coronafeirws | https://llyw.cymru/taflen-wybodaeth-am-y- |
Teithwyr sy’n esempt rhag rheolau ffiniau Cymru: coronafeirws (COVID-19) | Esbonio pwy fydd wedi eu heithrio rhag rheolau ffiniau newydd Cymru a gyflwynwyd o ganlyniad i'r coronafeirws. Bydd y rheolau yn berthnasol i deithwyr i'r DU o 8 Mehefin 2020. | https://llyw.cymru/teithwyr-sydd-wedi-eu-heithrio
|
£2.6m ychwanegol ar gyfer awdurdodau lleol i gefnogi Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor | Mae cynghorau lleol ym mhob rhan o Gymru yn mynd i gael £2.6m ychwanegol i’w helpu i ddiwallu’r cynnydd yn y galw am gymorth o dan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. | |
Covid-19 mewn ysgolion | Gwybodaeth am nifer y profion positif ar gyfer Covid-19 sy’n gysylltiedig ag ysgolion. |
|
Bocsys bwyd | Gwybodaeth am y bocsys bwyd a ddarparwyd ar gyfer pobl a oedd yn gwarchod eu hunain. | |
Profion COVID-19 | Gwybodaeth yn ymwneud â phrofion COVID-19 |
|
Cinio ysgol am ddim | Gwybodaeth am ginio ysgol am ddim. | https://llyw.cymru/atisn14490?_ga=2.163309180. |
Tystiolaeth ar gyfer y cyfnod atal byr | Copïau o dystiolaeth sy’n cefnogi’r cyfnod atal byr diweddar. | |
Ymweld ag ysbytai yn ystod y coronafeirws: canllawiau | Sut y gall y GIG helpu pobl i ymweld ag ysbytai mewn modd diogel sydd wedi’i drefnu yn ystod pandemig y coronafeirws. | https://llyw.cymru/ymweld-ag-ysbytai-yn-ystod |
Canllawiau newydd ar gyfer Ymweliadau ysbyty yn ystod pandemig y Coronafeirws | Caiff canllawiau diwygiedig newydd ar gyfer ymweld ag ysbytai GIG Cymru eu cyhoeddi ddydd Llun 30 Tachwedd 2020. Mae'r rhain yn disodli'r canllawiau a gyhoeddwyd gynt. | https://llyw.cymru/canllawiau-newydd-ar-gyfer |
Grant adfer gwirfoddoli yn sgil y coronafeirws: ffurflen gais
| Llenwch y ffurflen hon i wneud cais am y grant adfer gwirfoddoli yn sgil y coronafeirws. | https://llyw.cymru/grant-adfer-gwirfoddoli-yn-sgil-ffurflen-gais
https://llyw.cymru/gwneud-cais-am-grant-adfer-
|
Profi torfol COVID-19
| Mae pawb sy'n byw neu'n gweithio yn ardal Cyngor Merthyr Tudful neu Waelod Cwm Cynon yn cael cynnig prawf COVID-19. | |
Cymorth £340m ar gyfer busnesau Cymru wrth i’r rheolau coronafeirws newydd gael eu cyhoeddi
| Mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, wedi cyhoeddi set o gyfyngiadau newydd wedi’u targedu ar gyfer y sectorau lletygarwch a hamdden yn ogystal â phecyn cymorth gwerth £340m. | |
Penderfyniadau i ganiatáu i bob dysgwr ddychwelyd i ysgolion a lleoliadau ym mis Medi: asesiad effaith | Mae'r asesiad yn canolbwyntio ar asesu effeithiau caniatáu i bob dysgwr ddychwelyd i ysgolion a lleoliadau yng Nghymru o fis Medi 2020. | |
Cynllun ychwanegiad at dâl salwch statudol ar gyfer COVID-19 | Mae'r cynllun yn weithredol o 1 Tachwedd. Bydd gweithwyr gofal yn derbyn tâl llawn pan fyddent fel arall yn gostwng i tâl salwch statudol, neu ddim incwm o gwbl, oherwydd achos gwirioneddol o COVID-19 neu achos a amheuir neu oherwydd bod yn rhaid iddynt hunanynysu.
Rheolir y cynllun gan awdurdodau lleol ac mae'n berthnasol i staff mewn cartrefi gofal oedolion a phlant, gofal cartref a Chynorthwywyr Personol. Mae staff asiantaeth, cronfa a sy’n gweithioi gontractwyr yn gymwys. | https://llyw.cymru/cynllun-ychwanegiad-dal- |
Lansio Aroddiad Darganfod; Ymagwedd Strategol at Ddata Gofal Cymdeithasol yng Ngymru
| Rydym yn falch iawn o rannu copi o’r adroddiad darganfod yma ar ein ymagwedd strategol at ddata gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Lluniwyd yr adroddiad hwn gan Ofal Cymdeithasol Cymru mewn cydweithrediad â'r Rhaglen Adnodd Data Cenedlaethol a Gwasanaeth Gwybodaeth GIG Cymru, gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Mae cyrff cyhoeddus (lleol, rhanbarthol a cenedlaethol), sefydliadau trydydd sector, grwpiau ac unigolion sydd â phrofiad byw o ofal cymdeithasol i gyd wedi cyfrannu eu safbwyntiau. | https://gofalcymdeithasol.cymru/ymchwil-a-data
|
Prifysgol Abertawe | ||
Cartref Gofal yng Nghymru? Helpwch ni i ddeall sut mae cartrefu gofal yn diwallu anghenion siaradwyr Cymraeg hŷn trwy llenwi mewn holiadur fyr.
| Rhan o astudiaeth PhD yn edrych ar pwysicrwydd Cymraeg o fewn cartrefi gofal
Oruwchwylwyr academaidd Dr D Morgan d.j.morgan@swansea.ac.uk Yr Athro C Musselwhite c.b.a.musselwihte@swansea.ac.uk
Cymeradwywyd gan Pwyllgor Moesol Ymchwil, Coleg Gwyddoniaethau Dynol ac Iechyd, Prifysgol Abertawe
| https://swanseasom.au1.qualtrics.com/
Taflen gwybodaeth dwyieithog i gynrychiolwyr
|