LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO
Mae Darparwyr Gofal yn rhoi gefnogaeth hanfodol i'r dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau, ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn falch o’ch ymrwymiad parhaol a'ch gwaith caled.
Dylid darllen y bwletin gwybodaeth hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.
Nod y bwletin hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.
Pwnc | Manylion | Dolenni |
Llywodraeth Cymru | ||
Canllawiau ar gyfer profi gyda dyfeisiau profi llif unffordd i staff mewn cartrefi gofal | Yn dilyn cyhoeddiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 4 Chwefror mewn perthynas â phrofion ehangach ar gyfer staff cartrefi gofal, amgaeaf;
| |
Tystiolaeth ar gywirdeb profion gyda dyfeisiau llif unffordd
| Ynghlwm, mae rhai o'r dystiolaeth ategol sydd wedi bod o gymorth wrth lunio polisi Llywodraeth Cymru yn ogystal â dolen i grynodeb o dystiolaeth a ddarparwyd gan Yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ddiweddar.
Rhyddhawyd nodyn o dystiolaeth gan Yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar effeithiolrwydd dyfeisiau profi llif unffordd ym mis Rhagfyr gan grynhoi astudiaethau perthnasol. Er i hyn gael ei ysgrifennu yng nghyd-destun profi ymwelwyr, mae'n dal yn berthnasol ar gyfer cynnal profion ehangach ar gyfer staff gofal cymdeithasol. Gellir dod o hyd i hyn yma: https://www.gov.uk/government/publications/evidence-on-the-accuracy-of-lateral-flow-device-testing
Ynghlwm, ceir copi o'r sleidiau a rannwyd yn ddiweddar sy'n cynnwys y ddolen ganlynol: UK evaluation_PHE Porton Down University of Oxford_final.pdf
| Cozier et all use of rapid testing technologies for covid-19
Repeated mass testing with rapid antigen tests
Diweddariad ar rhaglen profi gofal cymdeithasol
|
Canllawiau diwygiedig ar gyfer rhyddhau cleifion o'r ysbyty yn dilyn COVID-19 - nodyn atgoffa | Nodyn atgoffa i'r holl bartneriaid i ddilyn y canllawiau diwygiedig ar gyfer rhyddhau cleifion o'r ysbyty yn dilyn COVID-19 | Saesneg yn unig https://gov.wales/covid19-hospital-discharge-service-requirements.pdf |
Cynllun Yswiriant Bywyd y GIG a Gofal Cymdeithasol | Mae ceisiadau i'r cynllun hwn yn is na'r disgwyl. Byddwch yn ymwybodol
Rydym yn gwybod y byddwch yn cytuno mor bwysig ydyw bod teuluoedd galarus yn cael mynediad at gymorth ariannol yn ystod y cyfnod anodd hwn. |
|
Hyblygrwydd Dros Dro: Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
| Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig estyniad o wyth wythnos i'r dyddiad cau o 31 Mawrth 2021 i ofalwyr maeth a gymeradwywyd i ddefnyddio ffurflen hunanddatganiad iechyd i gwblhau asesiad iechyd oedolion llawn. | Llythyr rhanddeiliaid - Hyblygrwydd Dros Dro - Y Paneli Maethu |
Datganiad Ysgrifenedig: Cyhoeddi Gwerthusiad o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 | Canfyddiadau ar ymgorffori Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. | datganiad-ysgrifenedig-cyhoeddi-gwerthusiad-o-ddeddf-gwasanaethau-cymdeithasol-llesiant-cymru-2014 |
Ystadegau ac ymchwil cysylltiedig â coronafeirws (COVID-19) | Data a'r dadansoddiad diweddaraf ar effaith coronafeirws ar gymdeithas yng Nghymru. | https://llyw.cymru/ystadegau-ac-ymchwil-cysylltiedig-coronafeirws-covid-19 |
Cyfle olaf i wneud cais - cyllid pod ymweld ar gael tan 26 Chwefror | Nodyn i'ch atgoffa bod cyllid Llywodraeth Cymru ar gael o hyd i gynorthwyo darparwyr gyda chostau llogi codennau ymwelwyr, ac unrhyw gostau yswiriant cysylltiedig o logi'r strwythurau hyn, i helpu eu preswylwyr i dreulio amser gyda ffrindiau a theulu eto. | Gellir dod o hyd i ddolen i fanylion am sut i wneud cais am gyllid yn: |
Iechyd Cyhoeddus Cymru | ||
Adnoddau Hygyrch Brechlyn Covid-19 | Ar y dudalen hon cewch daflenni brechlyn COVID-19 mewn fformatau hygyrch. Mae'r rhain yn cynnwys Hawdd ei Ddeall, Iaith Arwyddion Prydain, Print Bras a chyfieithiadau o ddogfennau allweddol ar gyfer siaradwyr ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg. | Adnoddau Hygyrch Brechlyn Covid-19 - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru) |