LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO
Mae Darparwyr Gofal Cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn a gofalu am y dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau. Mae'r rhain yn amseroedd heriol ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gwerthfawrogi popeth rydych chi'n ei wneud i gadw pobl yn ddiogel.
Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.
Nod y briff hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.
Pwnc | Manylion | Dolen |
Settled.org | ||
Cefnogaeth i Ddinasyddion yr UE ar gael trwy Settled.org | Rhaid i ddinasyddion yr UE / AEE wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE i fyw a gweithio yn y DU ar ôl 1 Ionawr 2021. Mae'r cynllun yn rhoi statws cyfreithiol iddynt sy'n amddiffyn eu hawliau dinasyddion ac yn eu galluogi i barhau i gael mynediad at wasanaethau lles. Os ydych chi'n gwybod am unrhyw un sydd angen cefnogaeth (cymydog, cydweithiwr, ffrind neu gleient) mae ein gwefan www.settled.org.uk yn darparu gwybodaeth mewn 15 iaith. Mae Settled yn darparu cyngor mewn 8 iaith dros y ffôn ac mae ganddynt bresenoldeb ar Twitter a Facebook gyda Fforymau a Gweminarau mewn gwahanol ieithoedd.
Cyswllt yng Nghymru: Eva Plajerova - 07511 214678 neu eva@settled.org.uk
| |
Llywodraeth y DU | ||
Ymestyn y Cynllun Mynediad i'r Gwaith | Mae Covid-19 yn newid y modd yr ydym yn gweithio ac yn effeithio ar yr amgylchedd a’r trefniadau gwaith. Gyda llawer o gyflogwyr yn gofyn i weithwyr addasu i amgylchedd newydd, gall cynllun Mynediad i Waith gwneud cyfraniad allweddol at helpu pobl anabl i gadw eu swyddi, dychwelyd i’w swyddi a dod o hyd i swyddi.
Bydd pobl sy'n gweithio gartref neu yn y gweithle ag anabledd yn elwa o gymorth ychwanegol, oherwydd estyniad o'r cynllun Mynediad i'r Gwaith, gan gynnwys cefnogaeth ar gyfer offer arbennig, costau teithio ac iechyd meddwl.
|
Gwnewch gais am gyllid naill ai |
Llywodraeth Cymru | ||
Ymweliadau dan do â chartrefi gofal i ailddechrau yfory [dydd Gwener 28 Awst] | Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething wedi cadarnhau y bydd ymweliadau dan do â chartrefi gofal oedolion a phlant yn cael ailddechrau o ddydd Gwener 28 Awst, ddiwrnod yn gynt na’r hyn a gyhoeddwyd yn flaenorol.
| https://llyw.cymru/ymweliadau- |
Ymweliadau â chartrefi gofal: canllawiau i ddarparwyr | Canllawiau i ddarparwyr cartrefi gofal ar gyfer oedolion a phlant ar sut i alluogi ymwelwyr i ymweld yn ddiogel yn ystod pandemig coronafeirws.
| https://llyw.cymru/ymweliadau-chartrefi |
Gwneud cais i gael prawf coronafeirws (COVID-19) | Cael prawf i ddarganfod a oes gennych coronafeirws.
| https://llyw.cymru/gwneud-cais-i |
Cynllun taliadau arbennig y gweithlu gofal cymdeithasol | Canllawiau terfynol ar bwy sy’n gymwys i dderbyn y taliad.
| |
Rheoliadau coronafeirws: cwestiynau cyffredin | Beth allwch chi a busnesau ei wneud yn ystod yr argyfwng a beth sy'n digwydd os byddwch yn torri'r deddfau newydd hyn.
| |
Annog Cymry sy’n dychwelyd o’u gwyliau i gadw at reolau cwarantin i atal lledaeniad COVID-19 | Atgoffir pobl sy’n dychwelyd o’u gwyliau i ddilyn rheolau cwarantin ar ôl dychwelyd i Gymru o dramor er mwyn atal lledaeniad coronafeirws.
| |
Deddfwriaeth y coronafeirws a chanllawiau ar y gyfraith | Pasiwyd y cyfreithiau a'r canllawiau ar y cyfreithiau hyn yng Nghymru mewn ymateb i bandemig coronafeirws.
| https://llyw.cymru/deddfwriaeth-y- |
Cadw cofnodion ynghylch staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr: profi, olrhain, diogelu | Canllawiau a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 13 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020.
| |
Mwy o gymorth wyneb yn wyneb i’r rhai sy’n dioddef ac yn goroesi camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol | Wrth i’r cyfyngiadau Covid-19 gael eu llacio, mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu’r cymorth sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau wyneb yn wyneb i’r rhai sy’n dioddef ac yn goroesi trais yn erbyn menywod, camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol (VAWDASV).
| |
Y Gell Cyngor Technegol: crynodeb o gyngor 21 Awst 2020 | Crynodeb o gyngor COVID-19 ddarparwyd i Weinidogion Cymru ar 21 Awst 2020.
| https://llyw.cymru/y-gell-cyngor- |
Cyngor ar y coronafeirws gan y Gell Cyngor Technegol | Gwybodaeth i helpu gweinidogion ymateb i bandemig COVID-19 mewn modd sydd ym mudd pennaf pobl Cymru.
| https://llyw.cymru/cyngor-ar-y-coronafeirws |
Cymryd pob mesur rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws mewn gweithleoedd a mangreoedd sydd ar agor i'r cyhoedd | Canllawiau o dan reoliad 13 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020.
|
|
Coronafeirws (COVID-19): teithwyr sy’n esempt rhag rheolau ffiniau Cymru | Esbonio pwy fydd wedi eu heithrio rhag rheolau ffiniau newydd Cymru a gyflwynwyd o ganlyniad i'r coronafeirws. Bydd y rheolau yn berthnasol i deithwyr i'r DU o 8 Mehefin 2020.
| https://llyw.cymru/teithwyr-sydd-wedi-eu- |
Gwneud cais am y Grant ar Gyfer Darparwyr Gofal plant: coronafeirws | Gall darparwyr gofal plant, gan gynnwys gwarchodwyr plant, meithrinfeydd, cylchoedd meithrin, crèches a chlybiau y tu allan i’r ysgol wneud cais am hyd at £5,000 i fynd i’r afael ag incwm a gollwyd rhwng 1 Ebrill 2020 a 30 Mehefin 2020.
| https://llyw.cymru/gwneud-cais-am-y- |
Care Home Cwtch | ||
Care Home Cwtch: Diogelwch staff gofal – blaenoriaeth ar gyfer diogelwch preswylwyr
| Bydd y sesiwn Care Home Digital Cwtch nesaf yn digwydd rhwng 2pm a 3.30pm, dydd Mercher, 16 Medi. Bydd y sesiwn yn edrych ar y pwnc ‘diogelwch staff gofal: blaenoriaeth ar gyfer diogelwch preswylwyr’.
Unwaith y byddwch wedi cofrestru, byddwch yn derbyn e-bost gyda’r ddolen y bydd ei hangen arnoch i ymuno â’r cyfarfod. Edrychwn ymlaen at eich gweld.
| Os oes gennych chi ddiddordeb mewn |
Gofal Cymdeithasol Cymru | ||
Porth swyddi Gofalwn.Cymru
| Cyflogwyr gofal cymdeithasol: rydym am helpu i fynd i'r afael â phrinderau staff y gallech fod yn eu hwynebu ar hyn o bryd. I'ch helpu i ddod o hyd i'r bobl gywir i lenwi'ch swyddi gwag a chefnogi'ch busnes, rydym wedi creu porth swyddi a fydd yn rhestru'r swyddi gofal cymdeithasol presennol yng Nghymru. Postiwch eich swyddi gwag ar Twitter gan gynnwys y manylion canlynol:
hashnod: #SwyddiGofalwnCymru (mae'n rhaid i chi gynnwys hwn) |
|