LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO
Mae Darparwyr Gofal Cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn a gofalu am y dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau. Mae'r rhain yn amseroedd heriol ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gwerthfawrogi popeth rydych chi'n ei wneud i gadw pobl yn ddiogel.
Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.
Nod y briff hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.
Pwnc | Manylion | Dolen |
Bwletin y Coronafeirws – trefniadau newydd
| Sylwch y bydd y cyhoeddiad wythnos presennol, Coronafeirws (COVID-19): Diweddariad ar gyfer Darparwyr Gofal, yn cael ei gyhoeddi bob pythefnos bellach yn ystod y cyfnod adfer hwn o’r pandemig. Byddwn yn parhau i adolygu amlder bwletinau. Cyhoeddir y rhifyn nesaf ar: Ddydd Mercher 19 Awst. |
|
Arolygaeth Gofal Cymru | ||
Cynllun Adfer AGC
| Mae AGC wedi rhannu ei chynlluniau adfer, a wnaeth ddod i rym ar 31 Gorffennaf 2020. Mae hyn yn cynnwys newid o system galwadau ‘gwirio’ i alwadau monitro, gyda mwy o ffocws ar sut rydych yn sicrhau diogelwch a llesiant pobl. Bydd y galwadau hyn yn llai aml, ac eithrio pan fydd pryderon yn cael eu codi, er mwyn galluogi’r holl wasanaethau i gael eu monitro. Gofynnir i ddarparwyr rannu eu hadroddiad adolygu ansawdd gofal dwywaith y flwyddyn. Bydd AGC yn cysylltu â darparwyr gyda manylion pellach. Gellir gweld manylion llawn y cynllun adfer ar wefan AGC. |
|
Llywodraeth Cymru | ||
Taliad gwerth £500 i Weithwyr Gofal Cymdeithasol
| Mae'r taliad untro yn cael ei wneud i gydnabod a gwobrwyo staff gofal cymdeithasol sy'n darparu gofal i'n dinasyddion sydd fwyaf agored i niwed yn eu cartrefi eu hunain. Nid yw'r staff yn gallu cadw at fesurau cadw pellter cymdeithasol ac maen nhw'n wynebu perygl uwch oherwydd nifer y bobl y maen nhw'n eu cynorthwyo. Mae'r cynllun yn berthnasol i staff mewn cartrefi gofal cofrestredig a gwasanaethau gofal cartref ac mae'n cynnwys Cynorthwywyr Personol. | |
Datganiad Ysgrifenedig: Rhagor o Gyllid ar gyfer Darparwyr Gofal Cymdeithasol i Oedolion | Mae £22.7 miliwn arall ar gael i helpu darparwyr gofal cymdeithasol i oedolion i dalu'r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r pandemig. | |
Datganiad Ysgrifenedig: Llythyr newydd gan Brif Swyddog Meddygol Cymru at y rheini sy'n gwarchod a fersiwn hawdd ei darllen o'r llythyr | Mae llythyrau gan Brif Swyddog Meddygol Cymru at y rheini sy'n gwarchod yn cael eu dosbarthu ar hyn o bryd. Mae'r llythyr hwn yn hysbysu'r unigolion sydd wedi bod yn gwarchod nad oes angen iddynt wneud hynny bellach ar ôl 16 Awst. Mae'r llythyr hefyd yn darparu manylion ynglŷn â'r cymorth a fydd yn parhau i fod ar gael i'r grŵp hwn. Mae fersiwn o’r llythyr sy'n hawdd ei darllen hefyd wedi'i chyhoeddi. |
|
Canllawiau ar amddiffyn pobl sydd fwyaf tebygol o fynd yn wael iawn o coronafeirws (gwarchod): canllaw hawdd ei ddarllen | Canllaw hawdd ei ddarllen i'ch helpu i fod yn barod i aros gartref ac i arbed coronafeirws rhag lledaenu. | |
Profi, olrhain, diogelu: pecyn cymorth ar gyfer cyflogwyr gweithwyr hanfodol | Pecyn cymorth ac asedau i gyflogwyr gweithwyr hanfodol gyfathrebu strategaeth profi, olrhain, diogelu. |
|
Canllawiau ar brofi ac olrhain cysylltiadau i leoliadau gofal plant. | Gwybodaeth am y prawf antigenau (swab) a’r prawf gwrthgyrff (gwaed) ac olrhain cysylltiadau. | |
Cynllun gweithredu cartrefi gofal | Mae’r llythyr hwn yn cynnwys y camau yr ydym yn eu cymryd i gefnogi’r sector cartrefi gofal. | |
Diogelu staff a phlant rhag y coronafeirws mewn gofal plant | Sut i baratoi eich gwasanaeth gofal plant i ganiatáu i fwy o blant fynychu, a'u diogelu nhw a'ch staff rhag y coronafeirws. |
|
Canllawiau ar gyfer delio gyda phobl sy’n anfodlon neu ddim yn gallu hunanynysu neu ddilyn cyfarwyddiadau cyfyngiadau symud y coronafeirws | Sut mae’n rhaid i awdurdodau lleol a darparwyr llety a gefnogir neu dros dro a hostelau ddelio gyda phobl sy’n anfodlon neu ddim yn gallu hunanynysu neu ddilyn cyfarwyddiadau symud y coronafeirws.
|
|
Datganiad ar y cyd gan Brif Swyddogion Meddygol y DU: Ymestyn cyfnod hunan-ynysu | Datganiad ar y cyd gan 4 Prif Swyddog Meddygol y DU ar newidiadau i'r cyfnod hunan-ynysu. |
|
Adolygiadau 21 diwrnod o fesurau i reoli COVID-19 (adolygiad 24 Gorffennaf): asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb | Asesiad o sut mae ein mesurau i reoli COVID-19 yn effeithio ar gydraddoldeb (adolygiad 24 Gorffennaf). | |
Teulu a ffrindiau yn ganolog i’r rheoliadau coronafeirws newydd | Daeth rheolau newydd i rym ar ddydd Llun 03 Awst i’w gwneud yn haws i deulu a ffrindiau gwrdd yn yr awyr agored.
| |
Datganiad Ysgrifenedig: Adolygiad o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 | Mae'r Prif Weinidog yn cyhoeddi'r chweched adolygiad o'r rheoliadau. Mae'r dolenni'n cynnwys y datganiad ysgrifenedig, y rheoliadau diweddaredig a pha newidiadau sydd wedi'u gwneud. |
|
Cau busnesau ac adeiladau: coronafeirws (COVID 19) | Rhestr o fusnesau ac adeiladau nad ydynt yn hanfodol y mae'n rhaid iddynt gau. |
|
Modelu gwasanaethau adsefydlu COVID-19 | Adnodd modelu i helpu gwasanaethau i gynllunio gwasanaethau adsefydlu yn dilyn pandemig y coronafeirws. | |
Canllawiau ar adael eich cartref a gweld pobl eraill: coronafeirws | Canllawiau ar reoliad 8 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020. | |
Canllawiau ar aelwydydd estynedig: coronafeirws | Rheolau a fydd yn berthnasol i fod mewn aelwydydd estynedig a chyngor ar sut i ffurfio un. | |
Rheoliadau coronafeirws: cwestiynau cyffredin | Beth allwch chi a busnesau ei wneud yn ystod yr argyfwng a beth sy'n digwydd os byddwch yn torri'r deddfau newydd hyn. |
|
Ystadegau ac ymchwil cysylltiedig â coronafeirws (COVID-19) | Data a'r dadansoddiad diweddaraf ar effaith coronafeirws ar gymdeithas yng Nghymru. |
|
Canllawiau ar weithio yng nghartrefi pobl eraill | Mae’r ddogfen hon i helpu cyflogwyr, cyflogeion a’r hunan-gyflogedig ac eraill (megis gwirfoddolwyr) sy’n gweithio yn neu ger gartrefi pobl (pan nad yw’r gwaith yn golygu cysylltiad corfforol agos) i ddeall sut i weithio’n ddiogel, gan gymryd camau i leihau y perygl o ddod i gysylltiad â COVID-19. | |
Gweithleoedd a mangreoedd: Cymryd pob mesur rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws mewn gweithleoedd a mangreoedd sydd ar agor i'r cyhoedd | Canllawiau o dan reoliad 13 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020. | |
Cynnig Gofal Plant Cymru i ailagor | Heddiw, mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cyhoeddi bod Cynnig Gofal Plant Cymru yn mynd i ailagor, gan ddarparu 30 awr o addysg gynnar a gofal i rieni plant 3 a 4 oed ledled Cymru sy’n gweithio. |
|
Rhagor o Gyllid ar gyfer Costau Ychwanegol Darparwyr Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn sgil Covid-19
|
|
Support for Adult Social Care guidance
|
Llinell gymorth ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru | Lansio llinell gymorth gan y Samariaid, wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Llinell gymorth bwrpasol yw hon ar gyfer gweithwyr y GIG a gweithlu'r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r gwasanaeth gwrando pwrpasol yn cynnig cymorth emosiynol ar y ffôn bob dydd rhwng 7.00am a 11.00 pm, ac mae ar gael i bawb, o staff rheng flaen i staff gweinyddol, gan roi cymorth iddynt pan fo arnynt ei angen fwyaf. Bydd llinell Gymraeg ar gael i’r rhai sy’n ceisio cymorth yn Gymraeg rhwng 7 ac 11 y nos. | Poster ar gymorth i'r GiG a Gofal Cymdeithasol I gael rhagor o adnoddau defnyddiol, ewch i: |
COVID-19 adnodd asesu risg y gweithlu: posteri gofal cymdeithasol a gofal iechyd | Mae posteri i egluro'r adnodd asesu risg ar gyfer gweithleoedd bellach ar gael. Argraffwch ac arddangoswch i esbonio'r adnodd i'ch holl staff. | Dolen i'r poster gofal cymdeithasol
|
Adnodd asesu risg COVID-19 ar gyfer y gweithlu | Mae'r adnodd hwn yn eich helpu chi i ystyried eich ffactorau risg personol ar gyfer COVID-19 ac yn argymell sut gallwch aros yn ddiogel. Mae wedi ei gynllunio ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol ond gall gael ei ddefnyddio mewn unrhyw weithle. | |
Datganiad Ysgrifenedig: Sicrhau bod pobl â symptomau COVID-19 yn ceisio cymorth mewn da bryd | Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyhoeddi cyfres o fesurau i sicrhau bod pobl sydd wedi eu heintio â COVID-19 yn cysylltu â gwasanaethau meddygol mewn da bryd, er mwyn cael y cymorth y mae ei angen arnynt. |
|
Cyngor ar y coronafeirws gan y Gell Cyngor Technegol | Gwybodaeth i helpu gweinidogion ymateb i’r pandemig COVID-19 mewn modd sydd er budd pennaf pobl Cymru. | |
Coronafeirws: cyngor newydd ynglŷn â phryd i geisio cymorth meddygol | Heddiw (dydd Mawrth 4 Awst) mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething yn annog unrhyw un sy’n hunanynysu gartref gyda COVID-19 i gysylltu ag 111 neu â’u meddyg teulu os nad yw eu symptomau’n gwella ar ôl saith niwrnod neu os ydynt yn dioddef o ddiffyg anadl neu’n chwydu, neu os yw blinder yn eu hatal rhag gwneud eu gweithgareddau arferol. |
|
Hunanynysu: canllawiau aros gartref i aelwydydd â coronafeirws posibl | Sut i hunanynysu ac edrych ar ôl eich hun yn y tŷ os oes haint coronafeirws posibl yn eich cartref.
| |
Profi, olrhain, diogelu: crynodeb o'r broses | Beth mae angen i chi ei wneud i helpu i olrhain cysylltiadau er mwyn rheoli lledaeniad y coronafeirws. |
|
Profi, olrhain, diogelu: gwybodaeth amlieithog am y coronafeirws | Gwybodaeth amlieithog am symptomau’r coronafeirws, profi am y coronafeirws ac olrhain cysylltiadau. | |
Cyllideb Sefydlogi Iechyd | Heddiw mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi pecyn sefydlogi newydd gwerth £800m i helpu GIG Cymru i barhau i ymateb i argyfwng y coronafeirws ac adfer o’i effaith. | |
Gofal Cymdeithasol Cymru | ||
Amser i chi
| Mae ‘Amser i chi’ yn rhwydwaith cymorth cymheiriaid newydd ar gyfer rheolwyr gwasanaethau gofal cartref yng Nghymru. Bydd y rhwydwaith yn cwrdd am un awr, bob pythefnos ar Zoom am 12 wythnos. Bydd gwesteiwr annibynnol yn cwrdd â chi a byddwch chi'n ymuno â grwpiau llai lle gallwch chi rannu profiadau, trafod unrhyw faterion y byddwch chi efallai eisiau cyngor arnyn nhw, a rhannu awgrymiadau a syniadau. Bydd y grwpiau hyn yn aros yr un fath dros y 12 wythnos. Mae'r rhwydwaith hwn wedi'i anelu at y rhai sydd â chymhwyster lefel 4 neu 5 sy'n rhedeg gwasanaethau gofal cartref neu sydd â chyfrifoldeb am reoli staff neu dimau. Cysylltwch â ni os nad ydych yn siŵr a yw hyn ar eich cyfer chi. Bydd y cyfarfod cyntaf ddydd Iau, 3 Medi am 11.30am. I archebu'ch lle neu i gael mwy o wybodaeth, e-bostiwch rebecca.cicero@gofalcymdeithasol.cymru neu hannah.williams@gofalcymdeithasol.cymru |
|
Porth swyddi Gofalwn Cymru
| Cyflogwyr gofal cymdeithasol: rydym am helpu i fynd i'r afael â phrinderau staff y gallech fod yn eu hwynebu ar hyn o bryd. I'ch helpu i ddod o hyd i'r bobl gywir i lenwi'ch swyddi gwag a chefnogi'ch busnes, rydym wedi creu porth swyddi a fydd yn rhestru'r swyddi gofal cymdeithasol presennol yng Nghymru. Postiwch eich swyddi gwag ar Twitter gan gynnwys y manylion canlynol:
|
|
| ||
osod blaenoriaethau ar gyfer ymchwil gofal cymdeithasol | Yn ddiweddar, gofynnodd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru i bobl am eu sylwadau a’u cwestiynau am ofal cymdeithasol a chymorth i bobl hŷn yng Nghymru. Cafodd y rhain eu crynhoi i gwestiynau y gellir eu hateb gan ymchwil. Yn awr maent eisiau eich cymorth i benderfynu pa gwestiynau sydd fwyaf pwysig. Cymerwch ran yn yr arolwg os ydych chi’n
Does dim angen ichi wybod am waith ymchwil – maent eisiau eich barn yn seiliedig ar eich profiad chi. Ni fydd ond yn cymryd 10 munud i’w gwblhau ac mae ar gael rhwng 29 Gorffennaf a 24 Awst 2020. Mae eich barn yn bwysig! |
|
Gweithdy – Beth yw’r ffordd orau i ni ddarparu gofal a chymorth cynaliadwy i helpu pobl hŷn i fyw bywydau hapusach a mwy boddhaus? | Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru yn cynnal gweithdy brynhawn 16eg / bore 17 Medi i gwblhau eu 10 rhestr orau o gwestiynau ymchwil. Gall ymarferwyr gofal cymdeithasol gofrestru buddiant trwy e-bostio healthandcareresearch@wales.nhs.uk erbyn 20 Awst 2020. |
|
Llywodraeth y DU | ||
Tell Us Once – adrodd marwolaeth o COVID-19 | Mae gwasanaeth Tell Us Once Llywodraeth y DU yn galluogi dinasyddion i rannu manylion unigolyn sydd wedi marw gydag adrannau perthnasol y llywodraeth, gan gael gwared ar yr angen i ymgysylltu â phob un ar wahân a darparu nifer o gopïau o'r dystysgrif marwolaeth. Gall Tell Us Once hysbysu nifer o sefydliadau gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol oedolion. | Saesneg yn unig
|