LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO

Mae Darparwyr Gofal Cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn a gofalu am y dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau. Mae'r rhain yn amseroedd heriol ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gwerthfawrogi popeth rydych chi'n ei wneud i gadw pobl yn ddiogel.

Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.

Nod y briff hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.

Pwnc

Manylion

Dolen

ADSS Cymru

Datganiad a diweddariad canllawiau - Coronafeirws (Covid-19): Cefnogaeth i Ddarparwyr a Gomisiynwyd

Mae ADSS Cymru â Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd er mwyn hyrwyddo cyhoeddiad y canllawiau Cymorth Coronafeirws (COVID-19) i Ddarparwyr a Gomisiynwyd, sydd wedi'u diweddaru.

 

Mae’r ddwy ddogfen ar gael ar-lein.

Statement: https://www.adss.cymru/en/
blog/post/joint-statement

 

Guidance: https://www.adss.cymru/en/
blog/post/covid19

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Cyngor wedi'i ddiweddaru gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac ap Astudiaeth Symptomau'r Coronafeirws (COVID-19)

Mae cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi'i ddiweddaru i ddangos y newidiadau i'r cyfyngiadau symud.

 

Maen nhw hefyd yn annog pob dinesydd i lawrlwytho'r ap Astudiaeth Symptomau, a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Mae'r ap yn galluogi defnyddwyr i nodi eu symptomau yn ddyddiol er mwyn helpu i greu darlun gwell o sut mae'r feirws yn effeithio ar bobl. Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i lawrlwytho'r ap, ewch i https://covid.joinzoe.com

Mae datganiad dyddiol llawn ar gael yma:
https://covid19-phwstatement.nhs.wales/

Comisynydd Pobl Hŷn dros Gymru

Lleisiau Cartrefi Gofal: Cipolwg ar fywyd yng nghartrefi gofal Cymru yn ystod Covid-19

Mae’r Comisynydd Pobl Hŷn yng Nghymru wedi cyhoeddi adroddiad, sy’n rhoi llais i bobl sy’n byw ac sy’n gweithio yn ein cartrefi gofal, ac sy’n cynnig cipolwg ar eu profiadau nhw yn ystod pandemig Covid-19.

 

Seiliwyd yr adroddiad ar dros 120 o ymatebion (a gafwyd rhwng 14 Mai ac 05 Mehefin) gan bobl hŷn, eu teuluoedd a’u ffrindiau a staff cartrefi gofal i gyfres o gwestiynau am eu profiadau yn ystod y cyfyngiadau symud, y problemau a’r sialensiau y maent wedi eu hwynebu a’r newidiadau a’r gwelliannau yr hoffent eu gweld.

 

Mae'r Comisiynydd hefyd yn galw am gynllun gweithredu i amddiffyn a chefnogi pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru.

https://www.olderpeoplewales.com/
cy/news/news/20-06-21/Care_Home_
Voices_A_snapshot_of_life_
in_care_homes_in_Wales_during_Covid-19.aspx

Llywodraeth Cymru

Datganiad Ysgrifenedig: Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020

Datganiad Ysgrifenedig gan y Prif Weinidog o ran y Gwelliannau i'r Cyfyngiadau Coronafeirws.

 

https://llyw.cymru/datganiad-
ysgrifenedig-rheoliadau-diogelu-
iechyd-cyfyngiadau-coronafeirws-
cymru-diwygio-rhif-6-2020

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020, fel y’u diwygiwyd

I ddangos sut y diwygiwyd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020.

https://llyw.cymru/rheoliadau-
diogelu-iechyd-cyfyngiadau-
coronafeirws-cymru-2020-fel-yu-diwygiwyd

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020                                     

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020.

https://llyw.cymru/rheoliadau-diogelu
-iechyd-cyfyngiadau-coronafeirws-
cymru-diwygio-rhif-6-2020

Datganiad Ysgrifenedig: Diweddariad ar COVID-19

Mae'r datganiad hwn gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu diweddariad i aelodau am ddatblygiadau diweddar, gan gynnwys gorchuddion wyneb, gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru (TTP), cyfraddau marwolaeth ar draws cenhedloedd y DU, a gwasanaethau sgrinio.

https://llyw.cymru/datganiad-
ysgrifenedig-diweddariad-ar-covid-19

Anfanteision cymhleth sy’n bodoli ers blynyddoedd wedi dod yn amlwg yn sgil y pandemig, yn ôl casgliadau adroddiad

Mae adroddiad mawr yn datgelu’r ffactorau cymhleth sy'n bodoli ers blynyddoedd sy’n cyfrannu at yr effaith anghymesur y mae'r coronafeirws yn ei chael ar gymunedau duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) Cymru.

https://llyw.cymru/anfanteision-
cymhleth-syn-bodoli-ers-
blynyddoedd-wedi-dod-yn-amlwg
-yn-sgil-y-pandemig-yn-ol

Adnodd Asesu Risg Gweithlu Cymru-19 Cymru Gyfan

Yr wythnos hon, ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at ddarparwyr gofal cymdeithasol i hyrwyddo defnydd yr Offeryn Asesu Risg Gweithlu Cymru-19 Cymru Gyfan. Yn erbyn y cefndir o dystiolaeth gynyddol bod coronafeirws yn cael mwy o effaith ar bobl o gefndiroedd BAME, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu'r adnodd asesu risg yma i gydnabod bod diogelu'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn flaenoriaeth allweddol. Atgoffir darparwyr i rannu pwysigrwydd ei ddefnydd i gefnogi ac amddiffyn staff gofal cymdeithasol.

 

Darperir Asesiad Risg fel dogfen bapur ac fel adnodd ar-lein.

Gellir dod o hyd i'r fersiwn ar-lein yma.

Os hoffech chi godi materion penodol
am yr adnodd, cysylltwch â:

HSS.Covid19.WorkplaceAssessment
SubGroup@gov.wales

 

Cyngor y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol ar yr Adolygiad 21 diwrnod

Mae’r cyngor hwn yn cael ei lywio gan allbynnau Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar Argyfyngau a Chell Cyngor Technegol Cymru, canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd a thrwy drafodaethau gyda Phrif Swyddogion Meddygol y pedair gwlad a Phrif Gynghorydd Economaidd Cymru.

https://llyw.cymru/cyngor-y-dirprwy
-brif-swyddog-meddygol-ar-yr-
adolygiad-21-diwrnod

Canllawiau ar warchod ac amddiffyn pobl a ddiffinnir ar sail feddygol fel rhai eithriadol o agored i niwed yn sgil y coronafeirws (COVID-19)

Gwybodaeth ar gyfer gwarchod ac amddiffyn pobl a ddiffinnir ar sail feddygol fel rhai eithriadol agored in niwed yn sgil COVID-19.

https://llyw.cymru/canllawiau-ar-
warchod-ac-amddiffyn-pobl-ddiffinnir
-ar-sail-feddygol-fel-rhai-eithriadol
-o-agored

 

Datganiad ar y Coronafeirws gan Ddirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Chris Jones: gwarchod

Datganiad gan Ddirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru ynghylch dim newidiadau i'r polisi gwarchod.

 

https://llyw.cymru/datganiad-ar-y-
coronafeirws-gan-ddirprwy-brif-
swyddog-meddygol-cymru-dr-
chris-jones-gwarchod

Y Gell Cyngor Technegol: crynodeb o gyngor 12 Mehefin 2020

Crynodeb o gyngor COVID-19 ddarparwyd i Weinidogion Cymru ar 12 Mehefin 2020.

https://llyw.cymru/y-gell-cyngor-
technegol-crynodeb-o-gyngor-
12-mehefin-2020

Olrhain cysylltiadau: bod yn wyliadwrus o sgamiau

Esbonio sut i adnabod cyfathrebiad go-iawn wrth ein tîm olrhain cyswllt.

https://llyw.cymru/olrhain-
cysylltiadau-bod-yn-wyliadwrus
-o-sgamiau

Canllawiau Interim – Cynllun Taliad Arbennig y Gweithlu Gofal Cymdeithasol

Mae’r canllawiau interim hyn yn nodi diben y cynllun, y cyfnod amser cymwys ac mae’n egluro pwy sy’n gymwys i gael y taliad arbennig o £500. Mae Atodiad 1 i’r canllawiau yn cynnwys cyfres o Gwestiynau Cyffredin.

https://llyw.cymru/cynllun-taliadau-
arbennig-y-gweithlu-gofal-cymdeithasol

Canllawiau - Beth sy’n digwydd pan gewch chi brawf am y coronafeirws (COVID-19) (hawdd ei ddeall)

Esboniad hawdd ei ddarllen o pryd i gael eich profi a beth fydd y GIG yn gofyn os fyddwch yn cael prawf positif.

https://llyw.cymru/beth-syn-digwydd-
pan-gewch-chi-brawf-am-y-
coronafeirws-covid-19-hawdd

Profi diweddariad wythnosol 23 Mehefin 2020: coronafeirws

Gwybodaeth am y nifer o bobl a brofwyd am y coronofeirws yng Nghymru hyd at 21 Mehefin 2020.

https://llyw.cymru/profi-diweddariad-
wythnosol-23-mehefin-2020-coronafeirws

Profi am y coronafeirws: diweddariadau wythnosol

Yn cynnwys y nifer a chanlyniadau profion y coronafeirws a ble cawsant eu profi.

https://llyw.cymru/profi-am-y-
coronafeirws-diweddariadau-
wythnosol

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Holiadur:
Gosod y blaenoriaethau ar gyfer ymchwil gofal cymdeithasol yng Nghymru

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru eisiau canfod blaenoriaethau ymchwil ar gyfer gofal cymdeithasol a chymorth i bobl 65 oed a hŷn.

Rydym eisiau canfod beth yw’r pryderon mwyaf, o safbwynt y bobl hŷn sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a’r bobl sy’n eu cefnogi. Byddwn wedyn yn gweithio gyda’r grwpiau hynny i flaenoriaethu’r rhai maen nhw’n credu y mae hi’n bwysicaf i’r ymchwil fynd i’r afael â nhw. Y nod yw datblygu agenda ymchwil gofal cymdeithasol a fydd yn galluogi pobl hŷn yng Nghymru i fyw bywydau hapusach a mwy boddhaus.

 

Ewch i'r wefan i gael gwybodaeth ac i lawrlwytho'r arolygon ar gyfer 1) ymarferwyr, a 2) pobl hŷn a gofalwyr di-dâl.

https://www.ymchwiliechydagofal.
llyw.cymru/newyddion////gosod-y-blaenoriaethau-ar-gyfer-ymchwil-gofal-cymdeithasol-yng-nghymru/?force=2

 

Gofal Cymdeithasol Cymru

Porth swyddi Gofalwn.Cymru

 

Cyflogwyr gofal cymdeithasol: rydym am helpu i fynd i'r afael â phrinderau staff y gallech fod yn eu hwynebu ar hyn o bryd. I'ch helpu i ddod o hyd i'r bobl gywir i lenwi'ch swyddi gwag a chefnogi'ch busnes, rydym wedi creu porth swyddi a fydd yn rhestru'r swyddi gofal cymdeithasol presennol yng Nghymru.

Postiwch eich swyddi gwag ar Twitter gan gynnwys y manylion canlynol:

  • teitl y swydd
  • awdurdod lleol (os yw'r swydd yn cwmpasu mwy nag un awdurdod, dylech gynnwys pob un)
  • disgrifiad cryno o'r rôl
  • hashnod: #SwyddiGofalwnCymru (mae'n rhaid i chi gynnwys hwn) 

 

Rydym hefyd yn gofyn am  cynnal arolwg i ddeall agweddau pobl tuag at y sectorau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar a gofal plant.

https://www.gofalwn.cymru/

 

 

I gwblhau’r arolwg: https://wh1.snapsurveys.com/s.asp?k=158982007929

 

  • Awdur: ADSS Cymru & Partners
  • Dyddiad: 24/06/2020