LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO
Mae Darparwyr Gofal Cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn a gofalu am y dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau. Mae'r rhain yn amseroedd heriol ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gwerthfawrogi popeth rydych chi'n ei wneud i gadw pobl yn ddiogel.
Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.
Nod y briff hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.
Datganiadau a Newyddion Llywodraeth Cymru
| Ar 7 Ebrill, gwnaeth Vaughan Gething, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gyflwyno datganiad ysgrifenedig ar y diweddariadau diweddaraf o ran profi am y coronafeirws (COVID-19).
Mae Llywodraeth Cymru'n arwain consortiwm o randdeiliaid yng Nghymru i gyflwyno'n cynllun cenedlaethol ar gyfer profi am COVID-19. Ddydd Mawrth, gwnaeth Llywodraeth Cymru rannu manylion y dull newydd ar gyfer profi ym mis Ebrill. |
|
| Un o'r tasgau pwysicaf fydd sicrhau bod y gallu gennym i gefnogi unigolion ag anghenion gofal iechyd acíwt yn ein hysbytai. I wneud hyn, mae angen inni drefnu i ryddhau'r unigolion hynny nad oes angen gwely arnynt yn yr ysbyty bellach, a hynny’n gyflym ac mewn modd diogel. Y drefn arferol newydd fydd rhyddhau’r claf o’r ysbyty heddiw.
Bydd angen i'n timau ar draws y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) a lleoliadau gofal cymdeithasol a chymunedol weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod digon o welyau acíwt ar gael drwy ryddhau cleifion yn briodol yn gynt o welyau’r GIG drwy gydol y cyfnod eithriadol hwn.
Rydym wedi cyhoeddi Gofynion Gwasanaeth Rhyddhau o'r Ysbyty, sy'n nodi’r camau y mae'n rhaid eu cymryd ar unwaith i wella trefniadau rhyddhau cleifion o'r ysbyty a darparu cymorth iddynt yn y gymuned | Dolen i ofynion gwasanaeth rhyddhau o'r ysbyty gan LlC
|
| Yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae'r Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau wedi anfon fideo at breswylwyr mewn cartrefi gofal ledled Cymru. Mae hi am iddynt wybod ei bod yn meddwl amdanynt wrth iddynt ddod i delerau â pheidio â gweld eu ffrindiau a'u teuluoedd yn ystod y cyfnod hwn. | |
4. Llythyr agored y Dirprwy Weinidog i bobl hŷn | Mae Julie Morgan AC, Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi cyflwyno llythyr twymgalon agored i bobl hŷn yng Nghymru, yn cydnabod yr heriau anodd sy'n wynebu pobl hŷn yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn ac yn cynnig ei chefnogaeth a'i dealltwriaeth.
Mae'r llythyr hefyd yn cynnwys gwybodaeth am linell gymorth Age Cymru, sy'n parhau i fod ar gael am gyngor. Mae ar agor rhwng 10am a 4pm, dydd Llun i ddydd Gwener, a'r rhif i’w ffonio yw 08000 223 444. Os ydych dros 70 oed ac yn byw ar eich pen eich hun, gallwch hefyd gofrestru ar gyfer ei wasanaeth ffonio a sgwrsio sydd wedi'i lansio'n ddiweddar, lle mae aelod o staff yn eich ffonio bob dydd i ateb unrhyw ymholiadau sylfaenol sydd gennych, i awgrymu gwasanaethau lleol, neu ddim ond i gael sgwrs gyda chi. |
|
5. Costau gofal ychwanegol oherwydd COVID-19 | Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gydag awdurdodau lleol a darparwyr i nodi'r costau ychwanegol i wasanaethau gofal cymdeithasol o ganlyniad i'r pandemig COVID-19.
Caiff cyhoeddiad am gymorth ariannol ei gyflwyno cyn bo hir.
|
|
6. Camau cadw pellter cymdeithasol newydd – deddfwriaeth y rheol dau fetr | O ddydd Mawrth 7 Ebrill, daw rheolau newydd i amddiffyn gweithwyr yn ystod y pandemig coronafeirws i rym, yn ôl Mark Drakeford, y Prif Weinidog. | |
7. Y trydydd sector a gwirfoddoli | Mae James Hutt AC, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, wedi cyhoeddi datganiad i ddweud y bydd Llywodraeth Cymru yn creu cronfa ymateb i COVID-10 ar gyfer y trydydd sector gwerth £24 miliwn. Bydd hon yn cefnogi tri maes gweithgarwch penodol:
Gweler y datganiad am ragor o fanylion. | Dolen ar gyfer cefnogaeth i’r trydydd sector a gwirfoddolwyr |
8. Capasiti gofal critigol | Mae Vaughan Gething AC, y Gweinidog dros Iechyd a'r Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn mynegi diolch i'r GIG a'r holl staff sydd wedi ailhyfforddi ac sy’n cael eu hadleoli i weithio mewn lleoliadau gofal critigol. Mae'r datganiad yn rhoi manylion y gwaith sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid i gynyddu capasiti gofal critigol yng Nghymru. | |
9. Canllawiau i awdurdodau lleoli ar angladdau | Canllawiau ar gynnal angladdau a'u mynychu yn ystod y pandemig coronafeirws. | |
10. 'Llythyr gwarchod' y Prif Swyddog Meddygol i bobl hynod agored i niwed: esbonio'r cymorth | Bydd pawb sydd wedi'u nodi fel bod mewn perygl uchel o salwch difrifol oherwydd y coronafeirws (o ganlyniad i gyflwr iechyd isorweddol difrifol) yn derbyn llythyr gan Brif Swyddog Meddygol Cymru erbyn 5 Ebrill fan bellaf. Gelwir hwn yn ‘llythyr gwarchod’.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau gwybodaeth ategol i bobl sydd wedi'u nodi fel bod mewn perygl uchel iawn o salwch difrifol oherwydd y coronafeirws – gellir cael mynediad ati neu ei lawrlwytho ar wefan Llywodraeth Cymru. | Dogfennau yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd CMO Letter on shielding extremely vulnerable people WG Guidance on shielding letter
|
11. Ysbytai maes | Gan adeiladu ar gynlluniau pandemig presennol Llywodraeth Cymru, mae gan GIG Cymru, drwy ei fyrddau iechyd, gynlluniau ar waith er mwyn cynyddu capasiti ac mae’n parhau i archwilio opsiynau eraill. | |
12. Cyfarpar diogelu personol | Yn dilyn adolygiad cyflym o ganllawiau cyfarpar diogelu personol yn y DU, a gynhaliwyd gan Academi'r Colegau Brenhinol Meddygol ac Iechyd Cyhoeddus Lloegr, ar y cyd â Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru, cyhoeddwyd canllawiau newydd, sy'n berthnasol ledled y DU, ar 3 Ebrill. Roedd Sefydliad Iechyd y Byd wedi cymeradwyo ymagwedd y DU o ran cyfarpar diogelu personol. | Datganiad ysgrifennedig (02/04/20) Dolen ar gyfer y datganiad ar PPE
Canllawiau (03/04/20) |
13. Datganiad gofal plant am ddim i weithwyr gofal critigol | Cynnig gofal plant i Gymru - cefnogi gweithwyr hanfodol yn ystod pandemig y coronafeirws | |
Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddarpariaeth gofal cymdeithasol brys, gwiriadau cyn-gyflogaeth mewn gofal preswyl a chartref i oedolion, a datganiadau blynyddol darparwyr | Yng Nghynllun Gweithredu Coronafeirws y Pedair Cenedl a gyhoeddwyd ar 3 Mawrth, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai unrhyw newidiadau sydd eu hangen mewn deddfwriaeth yn cael eu datblygu mor gyflym â phosib.
Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi ysgrifennu at bartneriaid allweddol i ymgynghori ar is-deddfwriaethau drafft sy'n cael eu datblygu ar frys er mwyn cefnogi darpariaeth gofal cymdeithasol brys i oedolion ac i symleiddio’r gwiriadau cyn-gyflogaeth angenrheidiol i weithwyr gofal preswyl a chartref newydd. Anfonwch unrhyw sylwadau neu gwestiynau ar y cynigion hyn i flwch post RISCAct2016@llyw.cymru erbyn 12 hanner nos ar 17 Ebrill 2020. | Llythyr ar gael yn Saesneg yn unig
Consultation letter on emergency provision
|
Manylion llwybrau cymunedol sylfaenol | Ar 20 Mawrth, gwnaeth yr Is-grŵp Gofal Sylfaenol a Chymunedol ar gyfer Cynllunio ac Ymateb Cenedlaethol o fewn Llywodraeth Cymru gymeradwyo fframwaith cymunedol ar gyfer COVID-19 sy'n cynnwys llwybr resbiradol cenedlaethol cytunedig ar gyfer rheoli COVID-19 yn y gymuned. Mae'r llwybr hwn wedi'i ddylunio i weithio ynghyd â'r llwybr resbiradol gofal eilaidd, a gyhoeddwyd ar 17 Mawrth 2020. Diben y llwybr hwn yw cefnogi gofal sylfaenol, y gymuned a chydweithwyr sy’n barafeddygon wrth wneud penderfyniadau ynghylch rheoli cleifion sydd â symptomau posibl COVID-19 neu symptomau COVID-19 go iawn. Dylech gyfeirio at y dogfennau llwybr cymunedol atodedig. Mae'r rhain yn cynnwys:
| Adnoddau ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd
Primary and community pathways letter Community telephone consultation fomr
|
Adrodd am gapasiti ar draws lleoliadau plant – Consortiwm Comisiynu Plant Cymru (4Cs), Llywodraeth Cymru, ADSS Cymru, a phenaethiaid gwasanaeth awdurdodau lleol | Mewn ymateb i'r sefyllfa bresennol, mae angen ciplun ar gapasiti ar draws darpariaeth lleoliadau plant yng Nghymru ar Gonsortiwm Comisiynu Plant Cymru (4Cs), Llywodraeth Cymru, ADSS Cymru, a phenaethiaid gwasanaeth awdurdodau lleol. Y ffordd fwyaf effeithiol i ni goladu a dadansoddi'r data hyn yw drwy’r Adnodd Cymorth Comisiynu ar gyfer Plant. Dyma flaenoriaeth genedlaethol i gefnogi cynllunio wrth gefn i blant sy'n derbyn gofal yn ystod y pandemig COVID-19 ac felly mae'n hanfodol eich bod yn helpu drwy sicrhau bod eich lleoedd gwag yn cael eu diweddaru ar yr Adnodd Cymorth Comisiynu ar gyfer Plant erbyn 12 hanner dydd ddydd Iau 9 Ebrill. Mae'r cais hwn yn berthnasol i holl leoliadau gofal fframwaith a di-fframwaith yr Adnodd Cymorth Comisiynu ar gyfer Plant. Mae modd cwblhau lleoedd gwag drwy fynd i'r ardal lleoedd gwag ar eich tudalen darparwr ar yr Adnodd Cymorth Comisiynu ar gyfer Plant a chlicio ar y botwm 'Diwygio Lleoedd Gwag'. Mae cydymffurfiaeth data lleoedd gwag ar gyfer darparwyr fframwaith eisoes yn cael ei monitro gan 4Cs ac rydym yn argymell bod yr holl ddarparwyr yn cynnal eu proffil darparwr, gan gynnwys lleoedd gwag, yn rheolaidd ac o fewn saith niwrnod i unrhyw newid mewn lleoedd gwag. Er nad ydym yn gorfodi'r cymal lleoedd gwag yn y cytundeb fframwaith yn rheolaidd, byddwch yn gwerthfawrogi ei bod yn hollol angenrheidiol cael darlun tra chywir ar adegau fel hyn er mwyn cynllunio. Felly, rydym yn gofyn i bob un ohonoch flaenoriaethu’r gwaith o roi cymorth inni yn yr ymarfer hwn, er ein bod yn gwerthfawrogi eich bod yn brysur iawn yn rhoi cymorth lleoli gweithredol ar yr adeg hon. |
|
Offeryn Capasiti Gofal a Chymorth ar-lein
| Lansiodd Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Data Cymru, yr Offeryn Capasiti Gofal a Chefnogaeth ar 26 Mawrth gan alluogi darparwyr cartrefi gofal i ddiweddaru eu niferoedd swyddi gwag yn gyflym. Bydd yr offeryn hwn yn darparu un ffynhonnell wybodaeth werthfawr am gapasiti'r cartref gofal yn ystod yr amser anodd hwn.
Ar ôl ei sefydlu'n llawn, dylai hyn leihau'r angen i gomisiynwyr gysylltu â'ch gwasanaeth i gael y wybodaeth hon.
Os nad ydych eisoes wedi cofrestru, gwnewch hynny. Gallwch wneud hyn trwy ymweld â https://www.dewis.cymru a nodi'ch manylion. Gallwch gael gafael ar gymorth i ddiweddaru'ch gwybodaeth trwy ffonio 07773 486891 rhwng 8am ac 8pm bob dydd. Gallwch hefyd gael gafael ar gymorth trwy e-bostio help@dewis.wales. |
Os oes gennych unrhyw adborth ar yr offeryn, e-bostiwch help@dewis.wales |
Gwybodaeth ac arweiniad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru
| Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi dangosfwrdd rhyngweithiol dyddiol o ddata am achosion coronafirws ledled Cymru, wedi'i ddadansoddi yn ôl bwrdd iechyd ac ardal awdurdod lleol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn barhau i gyhoeddi datganiad bob dydd am 2pm. Mae'r datganiad yn nodi'r cyngor diweddaraf i ddinasyddion, ynghyd ag ystadegau dyddiol ar nifer yr achosion a gadarnhawyd o COVID-19 a nifer y marwolaethau cysylltiedig. | Dolen ar gyfer y dangosfwrdd data
|
Cymorth ar-lein ar gael i fusnesau yng Nghymru sy'n cael eu heffeithio gan COVID-19
| Rydym wedi lansio cyfres newydd o weminarau yn darparu cyngor i fusnesau bach a chanolig ledled y wlad sy'n cael eu heffeithio gan COVID-19. Mae'r gyfres 'Covid-19 a'ch Busnes' yn ymdrin â phynciau allweddol er mwyn cynorthwyo pob perchennog busnes ac unig fasnachwr, sy'n dymuno lleihau effaith y pandemig a gwella siawns eu mentrau o oroesi. Darperir y gweminarau gan ymgynghorwyr busnes arbenigol Busnes Cymru ac maent yn rhoi arweiniad ar bynciau megis modelau busnes amgen ac arallgyfeirio, llif arian a chael gafael ar gyllid, polisïau a gweithdrefnau AD, gan gynnwys cyfraith cyflogaeth, tâl salwch a chontractau dim oriau, rheoli timau a llwyth gwaith o bell, annog cynhyrchiant a negodi â chyflenwyr a chwsmeriaid. Yn ystod y gweminarau, bydd pob cyfranogwr yn cael cyfle i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb fyw drwy anfon eu cwestiynau at y cyflwynwyr. | I gael rhestr lawn o'r gweminarau ac archebu eich lle, ewch i:
|
Cyfrifon blynyddol
| Mae Tŷ'r Cwmnïau wedi cadarnhau y gall darparwyr y mae eu cyfrifon efallai yn hwyr oherwydd materion sy'n deillio o COVID-19, ac nad yw eu dyddiad cau ffeilio wedi mynd heibio eto, wneud cais am estyniad awtomatig ac ar unwaith o dri mis i ffeilio eu cyfrifon. | Gwybodaeth yn Saesneg yn unig https://www.gov.uk/guidance |
Diogelu data a'r coronafeirws: yr hyn mae angen i chi ei wybod | Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Ni fydd diogelu data'n eich atal rhag gwneud hynny. Rhaid bod yn gymesur – os yw rhywbeth yn teimlo'n eithafol o safbwynt y cyhoedd, yna'n fwy na thebyg mae hi. Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yma i helpu – gweler y ddolen am atebion i gwestiynau cyffredinol. Os oes angen mwy o gymorth arnoch, ffoniwch 0303 123 1113. | Gwybodaeth yn Saesneg yn unig
https://ico.org.uk/for-organisations/
|
AGC Coronafeirws (COVID-19): Cwestiynau Cyffredin
| Mewn ymateb i'r coronafeirws (COVID-19), rydym wedi casglu rhai o'ch cwestiynau mwyaf cyffredin i ddarparwyr gofal a staff ledled Cymru, a byddwn yn diweddaru'r rhain yn rheolaidd wrth i'r sefyllfa ddatblygu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch coronafirws (COVID-19) nad ydynt wedi'u cynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ar hyn o bryd, cysylltwch â AGC. | Nodwch: bydd cyfieithiad Cymraeg o'r dudalen hon yn cael ei ddarparu’n fuan
https://arolygiaethgofal.cymru/cysylltwch-a-ni/cysylltwch-a-ni |
Gofal Cymdeithasol Cymru –Gweithio mewn gofal Cymdeithasol: Swyddi Gofalwn Cymru
| Cyflogwyr gofal cymdeithasol, rydym eisiau helpu ymdrin â’r prinder staff y gallech fod yn ei wynebu ar hyn o bryd. Nawr yn fwy nag erioed, mae angen pobl i roi gofal a chymorth i'r rheini sydd fwyaf bregus yn ein cymunedau. Er mwyn eich helpu i ddod o hyd i'r bobl iawn i lenwi eich swyddi gwag a chefnogi eich busnes, rydym yn creu porthol swyddi a fydd yn rhestru swyddi gofal cymdeithasol presennol yng Nghymru. Er mwyn i hyn ddigwydd, mae angen i chi gyhoeddi eich swyddi gwag ar Twitter o’ch sianeli chi, gan gynnwys y manylion canlynol: • Teitl y swydd • Awrdurdod lleol (os yw'r rôl yn cwmpasu mwy nag un awdurdod, rhestrwch nhw) • Disgrifiad byr o'r rôl • Rhaid iddo gynnwys hashnod: #SwyddiGofalwnCymru | |
Animeiddiad i blant a phobl ifanc yn esbonio am COVID-19
| Mae fideos i helpu i esbonio am COVID-19 i blant a phobl ifanc wedi cael eu datblygu gan y Sefydliad Iechyd Meddwl a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. |