LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO
Mae Darparwyr Gofal Cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn a gofalu am y dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau. Mae'r rhain yn amseroedd heriol ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gwerthfawrogi popeth rydych chi'n ei wneud i gadw pobl yn ddiogel.
Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.
Nod y briff hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.
Pwnc | Manylion | Dolen |
Cartref Gofal Cymru | ||
Care Home Cwtch: Sut mae’r broses o brofi am COVID-19 yn mynd rhagddi yn eich cartref?
| Bydd y sesiwn Care Home Digital Cwtch nesaf yn digwydd ddydd Awst, 5 Awst, a bydd yn edrych ar sut mae’r broses o brofi am COVID-19 yn mynd rhagddi yn eich cartref. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu, bydd angen i chi gofrestru cyn y sesiwn gan ddefnyddio’r ddolen hon: https://zoom.us/meeting/register/tJModO-rqzMpG9FU3Ce-ssb00lgUqVvCQ3te Unwaith y byddwch wedi cofrestru, byddwch yn derbyn e-bost gyda’r ddolen y bydd ei hangen arnoch i ymuno â’r cyfarfod. Edrychwn ymlaen at eich gweld. |
|
Gofal Cymdeithasol Cymru | ||
Amser i chi
| Mae ‘Amser i chi’ yn rhwydwaith cymorth cymheiriaid newydd ar gyfer rheolwyr gwasanaethau gofal cartref yng Nghymru. Bydd y rhwydwaith yn cwrdd am un awr, bob pythefnos ar Zoom am 12 wythnos. Bydd gwesteiwr annibynnol yn cwrdd â chi a byddwch chi'n ymuno â grwpiau llai lle gallwch chi rannu profiadau, trafod unrhyw faterion y byddwch chi efallai eisiau cyngor arnyn nhw, a rhannu awgrymiadau a syniadau. Bydd y grwpiau hyn yn aros yr un fath dros y 12 wythnos. Mae'r rhwydwaith hwn wedi'i anelu at y rhai sydd â chymhwyster lefel 4 neu 5 sy'n rhedeg gwasanaethau gofal cartref neu sydd â chyfrifoldeb am reoli staff neu dimau. Cysylltwch â ni os nad ydych yn siŵr a yw hyn ar eich cyfer chi.
Bydd y cyfarfod cyntaf ddydd Iau, 3 Medi am 11.30am. I archebu'ch lle neu i gael mwy o wybodaeth, e-bostiwch rebecca.cicero@gofalcymdeithasol.cymru |
|
Porth swyddi Gofalwn.Cymru
| Cyflogwyr gofal cymdeithasol: rydym am helpu i fynd i'r afael â phrinderau staff y gallech fod yn eu hwynebu ar hyn o bryd. I'ch helpu i ddod o hyd i'r bobl gywir i lenwi'ch swyddi gwag a chefnogi'ch busnes, rydym wedi creu porth swyddi a fydd yn rhestru'r swyddi gofal cymdeithasol presennol yng Nghymru. Postiwch eich swyddi gwag ar Twitter gan gynnwys y manylion canlynol:
hashnod: #SwyddiGofalwnCymru (mae'n rhaid i chi gynnwys hwn) |
|
COVID-19 adnodd asesu risg y gweithlu: posteri gofal cymdeithasol a gofal iechyd | Mae posteri i egluro'r adnodd asesu risg ar gyfer gweithleoedd bellach ar gael. Argraffwch ac arddangoswch i esbonio'r adnodd i'ch holl staff. | Cyswllt i'r poster gofal cymdeithasol
|
Canllaw Gweithredol wedi’i ddiweddaru gan Lywodraeth Cymru ar Ofal Cymdeithasol i Blant COVID-19 (Gorffennaf 2020)
|
|
|
Canllawiau ar brofi ac olrhain cysylltiadau i leoliadau gofal plant | Gwybodaeth am y prawf antigenau (swab) a’r prawf gwrthgyrff (gwaed) ac olrhain cysylltiadau. | |
Y Grŵp Cynghori Technegol: datganiad consensws ar brofi post-mortem | Gwybodaeth am ddichonoldeb profi am heintiaid gyda SARS-CoV-2 ar ôl marwolaeth yr unigolyn i gael ei brofi. |
|
Mesurau i reoli COVID-19 | Asesiad o sut mae ein mesurau i reoli COVID-19 yn effeithio ar gydraddoldeb (adolygiad 16 Gorffennaf). |
|
Ymateb y Gweinidog Cyllid i gyhoeddiad cyllid Llywodraeth y DU | Yn dilyn cyfarfod dydd Gwener â’r Trysorlys, dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans fod Llywodraeth y DU wedi “colli cyfle” i roi mwy o hyblygrwydd i Gymru er mwyn mynd i’r afael â phwysau ariannol pandemig y coronafeirws. | |
Cyngor y Prif Swyddog Meddygol ar yr Adolygiad o'r Cyfyngiadau | Cyngor a gyflwynwyd i'r Prif Weinidog ar adolygu trefniadau’r cyfyngiadau. | |
Llacio cyfyngiadau coronafeirws Cymru ymhellach | Heddiw, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd sinemâu, amgueddfeydd a salonau harddwch yn gallu ailagor o ddydd Llun, wrth i gyfyngiadau coronafeirws Cymru barhau i gael eu llacio (24 Gorffennaf). |
|
Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) 2020 | Cyhoeddwyd yr ymgynghoriad sy'n gysylltiedig â Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) 2020 ar 27 Gorffennaf 2020 a bydd yn dod i ben am 12am ar 24 Awst 2020
Gellir anfon unrhyw sylwadau neu gwestiynau ar y cynigion hyn i'r blwch post canlynol: PlantSynDerbynGofal@llyw.cymru | |
Canllawiau ar gyfer y gweithle i gyflogwyr a chyflogeion: COVID-19 | Canllawiau i gyflogwyr a gweithwyrgadw’n ddiogel yn y gweithle yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). |
|
Rheoliadau'r Coronafeirws: Diweddariad ynglŷn â gorchuddion wyneb | Mae Rheoliadau'r Coronafeirws wedi'u diweddaru i gynnwys cyngor ar orchuddion wyneb. | Cyswllt i'r canllawiau ar y rheoliadau
|
Gwneud cais i gael prawf coronafeirws | Cael prawf i ddarganfod a oes gennych coronafeirws. | |
Y Gell Cyngor Technegol: crynodeb o gyngor 24 Gorffennaf 2020 | Crynodeb o gyngor COVID-19 ddarparwyd i Weinidogion Cymru ar 24 Gorffennaf 2020. | |
Cyfleusterau profi coronafeirws rhanbarthol | Mae capasiti profi Cymru wedi’i gefnogi gan rwydwaith helaeth o gyfleusterau ledled y wlad. | |
Cronfa Cymorth Dewisol (DAF) | Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn cynnig dau grant gwahanol nad oes angen i chi eu talu yn ôl. |