LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO
Mae Darparwyr Gofal Cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn a gofalu am y dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau. Mae'r rhain yn amseroedd heriol ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gwerthfawrogi popeth rydych chi'n ei wneud i gadw pobl yn ddiogel.
Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.
Nod y briff hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol
Datganiadau a Newyddion Llywodraeth Cymru | ||||
1. Rheolau Coronafeirws Diwygiedig | Cyflwynwyd ychydig o newidiadau i reoliadau'r coronafeirws er mwyn egluro'r canlynol:
| https://llyw.cymru/datgelu-rheolau https://llyw.cymru/rheoliadau-diogelu | ||
2. Lliniaru'r risg o gyflwyno a lledaenu Covid-19 mewn cartrefi gofal | Trefniadau newydd ar gyfer y canlynol:
Mae arweiniad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer lleoliadau preswyl yn cael eu diweddaru ar hyn o bryd. | Ar gael yn Saesneg yn unig Llythyr i ddarparwyr gofal (22-Ebr) Llythyr i Byrddau Iechyd ac eraill https://llyw.cymru/gofynion-gwasanaeth | ||
3. Datganiad Ysgrifenedig: Fframwaith i arwain Cymru allan o bandemig y coronafeirws | Mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi fframwaith i arwain Cymru allan o bandemig y coronafeirws. | https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig | ||
4. £40m yn ychwanegol i gefnogi gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru | “Mae'r arian hwn ar gyfer helpu i sicrhau y gall awdurdodau lleol fynd i'r afael â'r costau ychwanegol sy'n deillio o Covid-19 y mae darparwyr gofal cymdeithasol i oedolion yn eu hwynebu. Bydd hyn yn cynnwys darparwyr gwariant ychwanegol sy'n mynd i gostau uwchlaw'r hyn a gomisiynir fel arfer ar eitemau fel costau staff uwch, mwy o staff asiantaeth neu fwy o reolaeth heintiau. Mae’r cyllid wedi'i neilltuo ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion ac mae wedi'i gynnwys yng Nghronfa Galedi COVID-19 Llywodraeth Leol a sefydlwyd yn ddiweddar. Bydd yn helpu i sicrhau bod darparwyr gofal cymdeithasol i oedolion yn gallu cynnal eu darpariaeth gofal ac yn gallu ymateb i unrhyw alw ychwanegol am ofal sy'n codi. Bydd y dyraniad hwn yn cael ei fonitro'n ofalus i sicrhau ei fod yn gallu parhau i wneud hyn. Mae rhagor o fanylion newydd gael eu rhannu â chynrychiolwyr darparwyr ac awdurdodau lleol ac maent i’w cael yn y neges e-bost sydd ynghlwm.
Yn y cyfamser, os bydd darparwyr gofal i oedolion yn wynebu costau o'r fath, dylent drafod hyn gyda'r awdurdod lleol sy'n comisiynu. Er bod y cyhoeddiad hwn yn ymwneud â gofal cymdeithasol i oedolion, mae'r sefyllfa o ran gofal plant hefyd yn cael ei monitro.” | https://llyw.cymru/ps40m-ychwanegol | ||
5. £10m i gefnogi cleifion sydd wedi gwella o coronafeirws ddychwelyd adref | Mae £10m o gyllid yn cael ei ddarparu i sefydliadau iechyd a gofal Cymru i helpu’r rheini sydd wedi gwella o COVID-19 i ddychwelyd adref yn gyflymach. Bydd y cyllid hwn yn ariannu pecynnau cymorth cartref newydd a gwell i gleifion sy’n gadael yr ysbyty er mwyn iddynt barhau i adfer eu hiechyd ac ar gyfer eu hasesu’n barhaus. Bydd hefyd yn helpu i ariannu gwasanaethau cymunedol hanfodol sy’n cefnogi’r ymateb i COVID-19 sydd o gymorth i unigolion aros yn eu cartrefi yn ddiogel. | https://llyw.cymru/ps10m-i-helpu-
https://llyw.cymru/gofynion-gwasanaeth | ||
6. Offeryn capasiti gofal a chymorth |
Bydd Data Cymru yn galw'r holl gartrefi gofal hynny sydd heb gofrestru ar gyfer yr offeryn eto.
Dylai darparwyr 'gofrestru' er mwyn agor cyfrif gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost y mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn ei ddefnyddio i gysylltu â nhw. E-bostiwch help@dewis.wales am unrhyw gymorth, neu fel arall ffoniwch 07773 486891 rhwng 8am a 8pm bob dydd. | Gellir cael mynediad i'r wefan er mwyn | ||
Addysg a Gwella Iechyd Cymru | ||||
Hyfforddiant rhoi meddyginiaeth ar gael ar-lein (AaGIC) | Mae hyfforddiant byr ar gyfer rhoi meddyginiaeth ar gael ar-lein ar wefan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC):
NODER: Gall fferyllwyr roi taflenni Cofnod Rhoi Meddyginiaeth (MAR) wrth ddosbarthu meddyginiaeth yn ei phecyn gwreiddiol. Gallai fod angen i ddarparwyr ofyn am y rhain er mwyn sicrhau proses gofnodi gadarn. | https://www.wcppe.org.uk/covid-19-medication-administration/
| ||
Arolygaeth Gofal Cymru | ||||
Adnodd ar-lein gan y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) | Mae'r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) wedi creu adnodd ar-lein i blant, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol i gefnogi iechyd meddwl a lles plant. Mae gan yr adnodd nifer o offer, apiau, fideos a llyfrau ar-lein sy'n cynnwys gwybodaeth am coronafirws. Mae'r adnodd ar-lein hwn yn offeryn ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant, gan gynnwys gofalwyr maeth a staff gofal preswyl, a bydd yn cefnogi eu gwaith ar yr adeg anodd hon wrth gefnogi lles emosiynol plant. | |||
Datganiad ar y cyd gan AGC a AGIC: Cynllunio gofal ymlaen llaw yng Nghymru | Mae Arolygaeth Gofal Cymru wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd â Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ar gynllunio gofal ymlaen llaw yng Nghymru. | |||
ADSS Cymru | ||||
Sut gall comisiynwyr roi'r cymorth gorau i ddarparwyr gofal cymdeithasol?
Dweud eich dweud! | Mae'r arweiniad ar gyfer darparwyr a gomisiynir wrthi'n cael ei adolygu. Cysylltwch â maria.bell@walga.gov.uk gydag unrhyw adborth Diolch | https://www.adss.cymru/cy/blog/post/covid19-commissioners
| ||
Gofal Cymdeithasol Cymru | ||||
Y cerdyn gweithiwr gofal cymdeithasol
| Mae mwy na 21,500 o weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi cofrestru ar gyfer fersiwn digidol y cerdyn gweithiwr gofal cymdeithasol ers iddo lansio pythefnos yn ôl.
Nod y cerdyn yw nodi gweithwyr gofal cymdeithasol a chadarnhau eu bod yn weithwyr allweddol wrth ymladd y pandemig COVID-19.
Yn dilyn ymlaen o lythyr agored ein Prif Weithredwr, Sue Evans, i'r archfarchnadoedd yn gofyn iddynt gydnabod y cerdyn yn ffurfiol ar 17 Ebrill, mae'r rhan fwyaf wedi gwneud hynny bellach. Mae Asda, The Food Warehouse, Iceland, M&S, Morrisons, Sainsbury’s, Tesco and Waitrose i gyd wedi dweud y byddant yn derbyn y cerdyn yn eu siopau. |
https://gofalcymdeithasol. | ||
Helpwch i ymladd COVID-19 – Cefnogwch y fyddin gudd, nawr a phob amser
| Yn ei cholofn ddiweddaraf ar gyfer y Western Mail (a gyhoeddwyd ddydd Llun 27 Ebrill), rhoddodd Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru, Sue Evans, glod i'r fyddin gudd o weithwyr gofal cymdeithasol sy'n brwydro'n ddiwyd ar y rheng flaen, gan ddarparu gofal a chymorth i'n ffrindiau, teuluoedd a chymdogion sydd fwyaf agored i niwed. | https://gofalcymdeithasol.cymru/straeon-newyddion/helpwch-i-ymladd-covid-19 | ||
Tudalennau gwe COVID-19 Gofal Cymdeithasol Cymru
| Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn parhau i ddiweddaru ei dudalennau gwybodaeth, cyfeirio ac adnoddau mewn perthynas â COVID-19. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf rydym wedi ychwanegu gwybodaeth am:
|
| ||
Busnes Cymru | ||||
Diweddariad -au i dudalennau cymorth Busnes Cymru | Mae Busnes Cymru wedi diweddaru ei dudalennau cymorth o amgylch Coronafeirws (COVID-19) gyda chefnogaeth i fusnesau, gweithwyr hunangyflogedig, cyflogwyr a gweithwyr. Mae'r wybodaeth ar gael ar 6 maes allweddol gan cynnwys arweiniad ar gymorth ariannol a grantiau, a chyfraddau busnes. | https://businesswales.gov. |