LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO

Mae Darparwyr Gofal Cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn a gofalu am y dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau. Mae'r rhain yn amseroedd heriol ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gwerthfawrogi popeth rydych chi'n ei wneud i gadw pobl yn ddiogel.

Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.

Nod y briff hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.

 

Pwnc

Manylion

Dolen

Arolygiaeth Gofal Cymru

GALWAD OLAF – Hoffai Arolygiaeth Gofal Cymru gael eich safbwyntiau ar ymweld â chartrefi gofal

Galwad olaf! Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn croesawu eich syniadau ar sut y gall cartrefi gofal alluogi teuluoedd i ymweld â nhw'n ddiogel. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein erbyn 11 Mehefin.

 

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn cydweithredu â Llywodraeth Cymru i ddrafftio canllawiau newydd, yn unol â'r cyhoeddiad gan Albert Heaney, y Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (isod).

https://arolygiaethgofal.cymru/200529-
rydym-yn-croesawu-eich-syniadau-ar-sut-y
-gall-cartrefi-gofal-alluogi-teulueodd-i-ymweld

Datganiad gan Arolygiaeth Gofal Cymru: ein dull o adfer

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi dosbarthu datganiad wrth iddi symud ymlaen o ymateb i argyfwng y pandemig i ystyried ei dull o adfer.

https://content.govdelivery.com/accounts/
UKWALES_CSSIW_INT/bulletins/28efd00

 

Llywodraeth Cymru

Diweddariad i'r canllawiau ar gyfer ymweliadau â gwasanaethau cartrefi gofal ac ailgysylltu'n ddiogel

Ddydd Gwener 5 Mehefin, dosbarthodd Llywodraeth Cymru lythyr i ddarparwyr cofrestredig ac unigolion cyfrifol mewn gwasanaethau cartrefi gofal yng Nghymru (oedolion a phlant).

Mae cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol a phrif weithredwyr byrddau iechyd yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau rydym yn eu cymryd i gefnogi'r gwaith o gynllunio gwasanaethau a all dderbyn ymweliadau gan ffrindiau a theuluoedd yn ddiogel, wrth i ni ddechrau ymadael â'r cyfyngiadau symud.

 

 

Llythyr gan Albert Heaney 05-06-20

 

https://llyw.cymru/ymweliadau-i-
gartrefi-gofal-ar-coronafeirws-
canllawiau-i-ddarparwyr-gwasanaeth

 

Datganiad Ysgrifennedig:Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiad am y Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020

Cafodd Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 ei basio gan y Senedd – a arferai gael ei galw yn Gynulliad Cenedlaethol Cymru – ar 17 Mawrth 2020 ac mae wedi derbyn y Cydsyniad Brenhinol erbyn hyn.

Bydd hyn yn cefnogi dull system gyfan, barhaus o wella ansawdd yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Bydd hefyd yn helpu i ymwreiddio ymhellach ddiwylliant o fod yn agored ac yn onest, ac yn helpu i ysgogi trefniadau i ymgysylltu â’r cyhoedd yn barhaus mewn perthynas â’r modd y caiff gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eu cynllunio a’u cyflenwi.

https://llyw.cymru/datganiad-
ysgrifenedig-deddf-iechyd-gofal-
cymdeithasol-ansawdd-ac-ymgysylltu-cymru-2020
.

Datganiad Ysgrifenedig: Diweddariad ar Brofi mewn Cartrefi Gofal

O ddydd Llun 15 Mehefin, bydd pob aelod o staff cartrefi gofal yn cael cynnig prawf wythnosol am gyfnod o bedair wythnos. Byddant yn gallu cynnal y profion eu hunain drwy ddefnyddio swabiau a fydd ar gael naill ai drwy’r Porthol Cartrefi Gofal neu’n uniongyrchol oddi wrth y Bwrdd Iechyd.

https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig
-diweddariad-ar-brofi-mewn-cartrefi-gofal

 

Diweddariad Profi wythnosol 9 Meh: coronafeirws

Gwybodaeth am y nifer o bobl a brofwyd am y coronofeirws yng Nghymru hyd at 7 Mehefin 2020.

https://llyw.cymru/profi-diweddariad
-wythnosol-9-me

Gorchuddion wyneb tair haen yn cael eu hargymell, ond ddim yn orfodol, mewn rhai sefyllfaoedd yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru yn dilyn cyngor diweddaraf Sefydliad Iechyd y Byd ac yn argymell y dylai pobl yng Nghymru wisgo gorchuddion wyneb tair haen mewn sefyllfaoedd lle nad yw’n bosibl cadw pellter cymdeithasol.

https://llyw.cymru/gorchuddion-wyneb-
tair-haen-yn-cael-eu-hargymell-ond-
ddim-yn-orfodol-mewn-rhai-sefyllfaoedd-yng

Gorchuddion wyneb: cwestiynau cyffredin

Sut a phryd y gallech ddefnyddio gorchudd wyneb i amddiffyn y bobl o'ch cwmpas, os ydych yn dewis gwisgo un.

https://llyw.cymru/gorchuddion-
wyneb-cwestiynau-cyffredin

Cyngor ar y coronafeirws gan y Gell Cyngor Technegol

Gwybodaeth i helpu gweinidogion ymateb i bandemigCOVID-19 mewn modd sydd ym mudd pennaf pobl Cymru.

https://llyw.cymru/cyngor-ar-y-corona
feirws-gan-y-gell-cyngor-technegol

Y Gell Cyngor Technegol: crynodeb o gyngor 5 Mehefin 2020

Crynodeb o gyngor COVID-19 ddarparwyd i Weinidogion Cymru ar 5 Mehefin 2020.

https://llyw.cymru/y-gell-cyngor-technegol
-crynodeb-o-gyngor-5-mehefin-2020

Y Gell Cyngor Technegol: defnyddio gorchuddion wyneb yng nghyd-destun COVID-19

Cyngor COVID-19 roddwyd i Weinidogion Cymru ar 8 Mehefin 2020.

https://llyw.cymru/y-gell-cyngor-tec
hnegol-defnyddio-gorchuddion-wyne
b-yng-nghyd-destun-covid-19

Y Gronfa Cadernid Economaidd – dod i wybod a yw eich busnes yn gymwys am gymorth o’r cam nesaf

Gall busnesau bellach ddod i wybod a ydynt yn gymwys i wneud cais am gymorth ariannol o gam nesaf Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru.

https://llyw.cymru/y-gronfa-cadernid
-economaidd-dod-i-wybod-yw-eich-
busnes-yn-gymwys-am-gymorth-or-cam-nesaf

Canllawiau -Coronafeirws (COVID-19): cefnogaeth i fusnesau

Rhyddhau ardreth busnes, grantiau a benthyciadau i fusnesau i'w helpu yn ystod yr anhawster achosir gan COVID-19.

https://llyw.cymru/coronafeirws-
covid-19-cefnogaeth-i-fusnesau

Staff mewn cartrefi gofal i gael £500 yn ychwanegol

Mae manylion pellach wedi'u cyhoeddi ynglŷn â phwy fydd yn cael taliad ychwanegol o £500. Mae hyn yn cynnwys staff ceginau a staff domestig mewn cartrefi gofal, staff asiantaeth a staff nyrsio sy'n cael eu cyflogi mewn cartrefi gofal, yn ogystal â chynorthwywyr personol a gweithwyr gofal cartref sy'n darparu gofal i bobl yn eu cartrefi eu hunain.

https://llyw.cymru/staff-mewn-cartrefi-
gofal-i-gael-ps500-yn-ychwanego
l

 

COVID-19 pandemig: canllawiau i ddarparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion

 

Canllawiau ar newidiadau i Reoliadau

 

Mae hyn yn ymwneud â Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020.

 

Mae'r canllawiau ar gyfer:

 

  • Awdurdodau lleol
  • Byrddau iechyd lleol
  • Darparwyr gwasanaethau cartrefi gofal i oedolion
  • Darparwyr gwasanaethau cymorth yn y cartref i oedolion

https://llyw.cymru/canllawiau-ar-
gyfer-darparwyr-gwasanaethau-gofal
-cymdeithasol-i-oedolion-yn-ystod
-pandemig-covid-19

Wythnos Gofalwyr (8-14 Mehefin)

Mae'r wythnos hon yn rhoi cyfle i ni gydnabod gwaith caled ac ymroddiad ein gofalwyr di-dâl.

 

Bydd thema benodol bob dydd lle gallwn ddathlu'r holl ffyrdd gwahanol y mae gofalwyr di-dâl yn darparu eu cymorth.

 

Mae'r Prif Weinidog a'r Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gwneud addewidion i gefnogi gofalwyr di-dâl. Byddant yn cymryd rhan mewn sesiwn “paned rithiol” gan roi cyfle i ofalwyr rannu eu profiadau â'r gweinidogion.

Datganiad i'r wasg –

https://llyw.cymru/cyhoeddi-ps50000
-ychwanegol-i-gefnogi-iechyd-meddw
l-gofalwyr-di-dal-yn-ystod-y-pandemi
g

 

Addewidion – https://www.carersweek.
org/get-involved/pledge

£50,000 o gyllid ychwanegol ar gyfer Gofalwyr Cymru

Bydd y cyllid newydd yn darparu cymorth proffesiynol i fwy o ofalwyr di-dâl, a chymorth gan eraill sydd yn yr un sefyllfa â nhw, er mwyn eu helpu i reoli eu hiechyd meddwl. Mae hyn mewn ymateb i'r pwysau ychwanegol o ganlyniad i COVID-19.

Datganiad i'r wasg – https://llyw.cymru
/cyhoeddi-ps50000-ychwanegol-i-gefno
gi-iechyd-meddwl-gofalwyr-di-dal
g

Canllawiau ar gyfer gofalwyr di-dâl: coronafeirws (COVID-19)

Canllawiau i'r rheiny sy'n darparu gofal di-dâl i deulu a ffrindiau.

 

https://llyw.cymru/canllawiau-ar-gyfer
-gofalwyr-di-dal-coronafeirws-covid-1
9

Canllawiau - Symptomau ac hunan-ynysu ar gyfer olrhain cysylltiadau

Dilynwch y canllawiau hyn os yw Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru wedi cysylltu â chi.

https://llyw.cymru/symptomau-ac-hun
anynysu-ar-gyfer-olrhain-cysylltiada
u

Coronafeirws (COVID-19): cyngor ar gyfer cael estyniad i fisa ar gyfer y DU

 

Yn flaenorol, roedd y Swyddfa Gartref yn caniatáu estyniadau i fisâu ar gais i'r rheiny a oedd â chaniatâd a oedd yn dod i ben ar ôl 24 Ionawr 2020 a chyn 31 Mai 2020 ac a oedd yn methu â gadael y DU oherwydd y coronafeirws.

 

Ar 22 Mai cyhoeddodd y Swyddfa Gartref y byddai'r rheiny sydd wedi cael estyniad i'w fisa yn barod yn cael estyniad awtomatig pellach hyd at ddiwedd mis Gorffennaf. Nid oes angen i'r grŵp hwn o bobl wneud unrhyw beth. Ond bydd angen i'r rheiny nad ydynt wedi gofyn am estyniad yn barod wneud cais er mwyn bod yn gymwys am estyniad.

 

Mae arweiniad y llywodraeth yn nodi: Os ydych yn y DU a bod eich caniatâd yn dod i ben rhwng 24 Ionawr 2020 a 31 Gorffennaf 2020, caiff eich fisa ei estyn hyd at 31 Gorffennaf 2020 os na allwch adael y DU oherwydd cyfyngiadau teithio neu hunanynysu sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws.

 

Er mwyn cael yr estyniad hwn, rhaid i'r rheiny y mae’n effeithio arnynt gwblhau ffurflen ar-lein.

 

Arweiniad Llywodraeth y DU:

https://www.gov.uk/guidance/corona
virus-covid-19-advice-for-uk-visa-
applicants-and-temporary-uk-residents

 

Ffurflen ar-lein ar gyfer cael estyniad i fisa:

https://gov.smartwebportal.co.uk/
homeoffice/public/webform
.asp?id=199&id2=5C97E7

Social Care Wales

Porth swyddi Gofalwn.Cymru

 

Cyflogwyr gofal cymdeithasol: rydym am helpu i fynd i'r afael â phrinderau staff y gallech fod yn eu hwynebu ar hyn o bryd. I'ch helpu i ddod o hyd i'r bobl gywir i lenwi'ch swyddi gwag a chefnogi'ch busnes, rydym wedi creu porth swyddi a fydd yn rhestru'r swyddi gofal cymdeithasol presennol yng Nghymru.

Postiwch eich swyddi gwag ar Twitter gan gynnwys y manylion canlynol:

  • teitl y swydd
  • awdurdod lleol (os yw'r swydd yn cwmpasu mwy nag un awdurdod, dylech gynnwys pob un)
  • disgrifiad cryno o'r rôl
  • hashnod: #SwyddiGofalwnCymru (mae'n rhaid i chi gynnwys hwn) 

 

Rydym hefyd yn gofyn am  cynnal arolwg i ddeall agweddau pobl tuag at y sectorau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar a gofal plant.

https://www.gofalwn.cymru/

 

 

I gwblhau’r arolwg: https://wh1.
snapsurveys.com/s.asp?k=158982007929

 

Age Cymru

Mae Age Cymru wedi lansio gwasanaeth cyfeillgarwch dros y ffôn o'r enw Ffrind Mewn Angen

Mae Age Cymru wedi lansio gwasanaeth Ffrind Mewn Angen i helpu i fynd i'r afael ag unigedd ac arwahanrwydd ymhlith y boblogaeth dros 70 oed o ganlyniad i bellhau cymdeithasol, hunan-ynysu neu warchod.

 

Bydd pobl hŷn yn gallu cysylltu gyda gwirfoddolwr o Age Cymru, sydd wedi ei hyfforddi a'i archwilio, drwy alwad cyfeillgarwch wythnosol am ddim.

 

Pe byddech chi neu rywun yr ydych chi'n ei adnabod yn elwa o'r gwasanaeth Ffrind mewn Angen, cysylltwch ag Age Cymru am ragor o wybodaeth ar 08000 223 444 neu ewch i’r wefan.

 

Os hoffech wirfoddoli fel cyfaill gwirfoddol dros y ffôn ar gyfer y gwasanaeth Ffrind mewn Angen, cofrestrwch yn Gwirfoddoli Cymru.

www.agecymru.org.uk/friend-in-need

 

Gwirfoddoli Cymru: https://volunteering-wales.net/vk/volunteers/registration.htm

  • Awdur: ADSS Cymru & Partners
  • Dyddiad: 10/06/2020