LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO
Mae Darparwyr Gofal Cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn a gofalu am y dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau. Mae'r rhain yn amseroedd heriol ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gwerthfawrogi popeth rydych chi'n ei wneud i gadw pobl yn ddiogel.
Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.
Nod y briff hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.
Pwnc | Manylion | Dolen |
ADSS Cymru | ||
Gweminar ar y Canllawiau ar Gymorth ar gyfer Darparwyr a Gomisiynir | Dyddiad: Dydd Iau 16 Gorffennaf, 11am-12pm Wedi'i chynnal gan ADSS Cymru mewn cysylltiad â'r Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru Mae'r Canllawiau ar Gymorth ar gyfer Darparwyr a Gomisiynir wedi datblygu yn ystod y broses o reoli'r argyfwng COVID-19 ac fe'u lluniwyd i grynhoi'r pwysau a roddir ar ddarparwyr gofal cymdeithasol i blant, pobl ifanc ac oedolion o ganlyniad i'r pandemig, ac i archwilio'r ffyrdd posibl y gallai comisiynwyr eu lliniaru. Mae'r weminar hon, a gynhelir gan ADSS Cymru, yn gyfle i gomisiynwyr a darparwyr archwilio'r egwyddorion craidd a'r gwerthoedd sy'n sail i'r canllawiau; archwilio rhywfaint o'r cyngor gweithredol technegol a sut y caiff ei ddarparu'n ymarferol; a gwrando ar lais y darparwr, er mwyn deall yr heriau a'r cyfleoedd sy'n bodoli, trwy trefniadau bartneriaethau comisiynu cydlynol ac aeddfed, wrth i ni symud tuag at gam newydd o ran rheoli'r feirws. | Cofrestrwch er mwyn mynychu'r weminar:
Cyswllt i'r webinar
|
Y Senedd | ||
Ymchwiliad i effaith Covid-19, a’r modd y mae’n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru: Adroddiad 1 | Gwnaeth Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon cynnal ymchwiliad i effaith Covid-19, a'r modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Gyhoeddwyd y pwyllgor eu adroddiad cyntaf yng Ngorffennaf 2020. | |
Gofal Cymdeithasol Cymru / Cydffederasiwn GIG Cymru | ||
Mae’n iawn fod yn optimistaidd am ein harwyr iechyd a gofal cymdeithasol | Mae ein Prif Weithredwr Sue Evans wedi ysgrifennu post blog ar gyfer gwefan Conffederasiwn y GIG lle mae’n rhannu ei balchder yng ngweithlu gofal cymdeithasol Cymru a’r gwerth a ddangoswyd ganddynt gyda’u hymateb i Covid-19. Yn y darn, mae hi hefyd yn galw am arweinyddiaeth gref i sicrhau bod y gydnabyddiaeth yma o werth yn arwain at gydraddoldeb parch â’u cydweithwyr yn y GIG. |
(Saesneg yn unig) |
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru | ||
Mae digon o amser ar ôl ichi gymryd rhan yn Arolwg Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru!
| Rydym wedi bod yn casglu sylwadau a phryderon gan bobl hŷn sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a’r bobl sy’n eu cynorthwyo. Y nod yw datblygu cynllun ar gyfer ymchwil gofal cymdeithasol a fydd yn galluogi pobl hŷn yng Nghymru i fyw bywydau hapusach a mwy boddhaus. Rydym am glywed gan fwy o ymarferwyr sy’n darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol a chymorth ar gyfer pobl 65 oed ac yn hŷn yng Nghymru, gan gynnwys:
Mae’r arolwg hwn yn ddienw, ac ni fydd ond yn cymryd 10 munud i’w gwblhau. Bydd yn cau ar Dydd Llun 13 Gorffennaf. | I gymryd rhan, ewch i https://www.y mchwiliechyda gofal.llyw.cym ru/newyddion ////gosod-yblaenoriaetha u-ar-gyferymchwil-gofalcymdeithasolyngnghymru/?forc
|
Llywodraeth Cymru | ||
Ymweliadau i gartrefi gofal: canllawiau i ddarparwyr | Canllawiau i ddarparwyr cartrefi gofal ar gyfer oedolion a phlant ar sut i alluogi ymwelwyr i ymweld yn ddiogel yn ystod pandemig coronafeirws. | |
Pen-blwydd GIG 72 | Mae'r Gweinidog Iechyd wedi ysgrifennu llythyr agored ar drothwy pen-blwydd y GIG yn 72nd, yn myfyrio ar y pandemig coronafeirws yng Nghymru. | |
Canllawiau ar adael eich cartref a gweld pobl eraill | O 6 Gorffennaf 2020 ymlaen, mae'r rheolau wedi'u llacio ymhellach sy'n golygu y cewch chi: Ffurfio aelwyd estynedig gydag un aelwyd arall, gan gynnwys yr hawl i aros yn yr aelwyd honno dros nos. Teithio y tu hwnt i'ch ardal leol ar gyfer unrhyw ddiben. | Gyswllt i ganllawiau ar adael eich cartref
Cyswllt i ganllawiau ar-aelwydydd estynedig
|
Adolygiad o fesurau'r cyfyngiadau symud a chyfyngiadau diogelu iechyd | Y Prif Weinidog yn gwneud datganiad ar yr adolygiad o'r cyfyngiadau symud (6 Gorffennaf 2020) | Cyswllt i datganiad ysgrifennedig ar adolygiad fesurau'r cyfyngiadau symud
|
CAFCASS gwybodaeth i blant a phobl ifanc ynghylch COVID-19 | Canllawiau i bobl ifanc ynghylch sut y gallai pandemig y coronafeirws effeithio achosion llys.
|
|
Fframwaith Gweithredu GIG Cymru COVID-19 | Fframwaith gweithredu i helpu’r GIG ddarparu gwasanaethau iechyd hanfodol yn ystod COVID-19. | Cyswllt i Fframwaith Gwithredu GIG Cymru COVID-19
|
Canllawiau rhyddhau o’r ysbyty | Rhaid i bartneriaid iechyd, gofal cymdeithasol, trydydd sector ac annibynnol yng Nghymru ddilyn y canllawiau rhyddhau hyn. | Cyswllt i canllawiau rhyddhau o'r ysbyty
|
Darparu toiledau mwy diogel i’r cyhoedd | Canllawiau i reoli toiledau a ddefnyddir gan y cyhoedd yn ddiogel yn ystod pandemig y coronafeirws. | |
Cynllun Yswiriant Bywyd | Cafodd y cynllun hwn ei gyhoeddi gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Ebrill. Mae'r cynllun hwn bellach ar agor ac yn darparu taliad o £60,000 i fuddiolwyr staff iechyd a gofal cymdeithasol y gellir priodoli eu marwolaeth i'r coronafeirws a'u cyflogaeth. Mae manylion llawn am gymhwysedd a sut y gellir gwneud hawliad ar gael ar y ddolen sy'n atodedig. |
|
Canllawiau Hawdd eu Deall – Cyngor ar warchod | Mae Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru wedi cyhoeddi diweddariad ar y cyngor ar warchod, mewn fformat hawdd ei ddeall. | |
Canllawiau Hawdd eu Deall - Beth sy’n digwydd pan gewch brawf am y coronafeirws | Esboniad hawdd ei ddarllen o pryd i gael eich profi a beth fydd y GIG yn gofyn os fyddwch yn cael prawf positif.
| Pan gewch chi brawf am y coronafeirws (COVID-19) (hawdd ei ddeall) |
Canllawiau Hawdd eu Deall - Gwneud prawf coronafeirws Ar gyfer pobl sy’n gadael yr ysbyty ac yn mynd i gartref gofal neu gartref byw gyda chefnogaeth | Fersiwn hawdd ei deall o sut y dylai systemau a darparwyr iechyd a gofal newid eu trefniadau rhyddhau a'r broses o ddarparu cymorth i'r gymuned yn ystod sefyllfa'r coronafeirws.
| Cael prawf coronafeirws ar ol bod yn yr ysbyty hawdd ei ddeall
|
Adsefydlu | Canllawiau ar anghenion adsefydlu pobl y mae sefyllfa’r pandemig coronafeirws wedi effeithio arnynt. | |
Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol ar gyfer cartrefi gofal - Cyfarwyddydau | Mae’r Cyfarwyddydau yn darparu bod modd i feddygon teulu gyflenwi gwasanaethau i drigolion cartrefi gofal yn ystod y pandemig COVID-19. | |
Hawolgaethau ariannol byrddau iechyd lleol – gwasanaethau ychwanegol | Cyfarwyddydau i fyrddau iechyd lleol ar ddiwygiadau i’r contract gwasanaethau meddygol cyffredinol.
| |
Gweithwyr hanfodol (allweddol) y coronafeirws: cymhwysedd prawf | Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu rhestr o'r holl weithwyr hanfodol sy'n gymwys i'w profi. | |
Canllawiau ar gwarchod | Gwybodaeth ar gyfer gwarchod ac amddiffyn pobl a ddiffinnir ar sail feddygol fel rhai eithriadol agored in niwed yn sgil COVID-19. | |
Llythyr gan y Prif Swyddog Meddygol i bobl agored i niwed | Gwybodaeth i’r bobl sydd mewn perygl mawr iawn o fynd yn ddifrifol wael gyda’r coronfafeirws. | |
Gwerthuso effaith gwasanaethau adsefydlu ar ôl COVID-19 | Canllawiau ar werthuso effaith gwasanaethau adsefydlu i helpu pobl sydd wedi'u heffeithio gan COVID-19. | |
Dileu £470M o ddyled y GIG | Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi dileu'r £470m sy'n ddyledus gan gyrff GIG Cymru fel y gallan nhw ganolbwyntio ar adfer o bandemig COVID-19. | |
Ymestyn ymgyngoriadau fideo i wasanaethau fferylliaeth, optometreg a deintyddiaeth yng Nghymru | Mae’r Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi heddiw (dydd Mawrth 7 Gorffennaf) y bydd ymgyngoriadau fideo yn cael eu hymestyn i bractisau deintyddol, i optegwyr ac i fferyllfeydd cymunedol. Daw hyn ar ôl cyflwyno’r gwasanaeth yn llwyddiannus mewn gofal sylfaenol, gofal cymunedol a gofal eilaidd yn ystod y pandemig coronafeirws. | |
Rhaglenni imiwneiddio | Datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd ar y rhaglenni imiwneiddio. | |
Rheoliadau: Cwestiynau cyffredin | Beth allwch chi a busnesau ei wneud yn ystod yr argyfwng a beth sy'n digwydd os byddwch yn torri'r deddfau newydd hyn. | |
Canllawiau'r Gweithle y Coronafeirws | Sut i weithio'n ddiogel yn ystod pandemig COVID-19 | Canllawiau ar swyddfeydd a chanolfannau cyswllt
|
Gofal Cymdeithasol Cymru | ||
Porth swyddi Gofalwn.Cymru
| Cyflogwyr gofal cymdeithasol: rydym am helpu i fynd i'r afael â phrinderau staff y gallech fod yn eu hwynebu ar hyn o bryd. I'ch helpu i ddod o hyd i'r bobl gywir i lenwi'ch swyddi gwag a chefnogi'ch busnes, rydym wedi creu porth swyddi a fydd yn rhestru'r swyddi gofal cymdeithasol presennol yng Nghymru. Postiwch eich swyddi gwag ar Twitter gan gynnwys y manylion canlynol:
|
|