LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO
Mae Darparwyr Gofal yn rhoi gefnogaeth hanfodol i'r dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau, ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn falch o’ch ymrwymiad parhaol a'ch gwaith caled.
Dylid darllen y bwletin gwybodaeth hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.
Pwnc | Manylion | Dolenni | |||||||||||||||||||||
Gofal Cymdeithasol Cymru | |||||||||||||||||||||||
Cymru Iachach: Ein Strategaeth ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol - gweithdai i drafod y cynllun gweithlu | Yn dilyn lansio Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn gweithio gyda'r Sefydliad Gofal Cyhoeddus (IPC) ym Mhrifysgol Oxford Brookes i ddatblygu cynllun gweithlu cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau gofal (sy'n cynnwys gofal preswyl, gofal cartref, gwasanaethau dydd, maethu a mabwysiadu ar draws y gwasanaethau i oedolion a phlant). Uchelgais cyffredinol y cynllun gweithlu ydy'r canlynol:
Er mwyn cyflawni'r uchelgais honno, rydyn ni wedi drafftio set o gamau gweithredu sy'n seiliedig ar rywfaint o ymgysylltiad cychwynnol â'r sector ac fe hoffem wahodd staff a rheolwyr sy'n gweithio yn y gwasanaethau gofal i gymryd rhan mewn gweithdy ar-lein (drwy Microsoft Teams) i'n helpu i gwblhau'r cynllun gweithlu. Byddwn yn rhannu ein cynnydd hyd yn hyn gyda chi ac yn gofyn am eich adborth ac yn ceisio awgrymiadau ynghylch beth arall sydd angen ei gynnwys i'w wneud yn gynllun realistig a chredadwy. Os gwelwch yn dda, ymunwch isod gydag un o'r 6 gweithdy i drafod y cynllun gweithlu:
Os na allwch fynychu ar y dyddiadau hyn, bydd cyfle hefyd i chi, a chydweithwyr eraill sydd â diddordeb, gymryd rhan mewn arolwg ar-lein. Bydd yr arolwg yn mynd yn fyw ar Fehefin 10fed a bydd yn gyfle i chi roi adborth manwl inni am y cynlluniau drafft am y gweithlu. Cadwch olwg am y ddolen i'r arolwg, a fydd yn cael ei chyhoeddi'n fuan. A fyddech chi mor garedig â rhannu'r manylion am y gweithdai hyn gyda sefydliadau a rhwydweithiau eraill a allai fod â diddordeb, os gwelwch yn dda. Diolch i chi ymlaen llaw am eich cefnogaeth i'r digwyddiadau hyn ac os oes gennych unrhyw ymholiadau yna cysylltwch â Richard Timms yn y Sefydliad Gofal Cyhoeddus (IPC).
| ||||||||||||||||||||||
Arolygaeth Gofal Cymru | |||||||||||||||||||||||
A ydych chi’n ofalwr di-dâl neu yn darparu gwasanaethau gofal a chymorth yn eich cymuned, yn aelod staff â thâl neu yn wirfoddolwr? | Os felly cewch brofion COVID cyflym am ddim a elwir yn brofion llif unffordd, wedi’u danfon at eich cartref neu drwy eu casglu o’ch safle profi lleol. | https://llyw.cymru/cael-profion-llif-unffordd-covid-19-cyflym-os-nad-oes-gennych-symptomau | |||||||||||||||||||||
Y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol | |||||||||||||||||||||||
IMPACT: Gwella Gofal Oedolion Gyda'n Gilydd
"Nid yw gofal da yn ymwneud â gwasanaethau yn unig, mae'n ymwneud â chael bywyd
Mae IMPACT yn canolfan newydd gwerth £15 miliwn i ddefnyddio tystiolaeth gofal cymdeithasol i oedolion, a ariannir gan Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI), a'r elusen, y Sefydliad Iechyd | Bydd IMPACT yn ‘ganolfan weithredu’, gan dynnu ar wybodaeth a gafwyd o wahanol fathau o ymchwil, profiad byw pobl yn defnyddio gwasanaethau a’u gofalwyr, a doethineb ymarfer staff gofal cymdeithasol. Bydd yn gweithio ledled y DU i sicrhau ei fod wedi'i wreiddio yn y cyd-destunau polisi gwahanol iawn ym mhob un o'r pedair gwlad, ac yn sensitif iddynt, yn ogystal â gallu rhannu dysgu ledled y DU gyfan.
Bydd IMPACT yn treulio 2021 yn ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol ar draws gofal cymdeithasol I oedolion, ac ar draws pedair gwlad y DU. Bydd hyn yn cynnwys: • Arolwg o randdeiliaid allweddol i helpu i nodi blaenoriaethau ar gyfer y sector, ac i helpu i ddatblygu rhaglen waith ddrafft a syniadau ar gyfer cyflawni. • Pum ‘Cynulliad IMPACT’ cysylltiedig (un yng Nghymru) sy’n dod â rhanddeiliaid ynghyd i: nodi ac adeiladu consensws o amgylch blaenoriaethau IMPACT; profi a gwella modelau cyflenwi arfaethedig; a chefnogi graddio i fyny a newid diwylliannol. • Ymarfer cenedlaethol i adeiladu cysylltiadau â sefydliadau a arweinir gan ddefnyddwyr a grwpiau cymunedol sy'n gweithio gyda ac ar gyfer pobl sydd â lleisiau nas clywir yn aml.
Sarah Jenkins, Prifysgol Caerdydd yw arweinydd Cymru | Sut alla i ddarganfod mwy a chymryd rhan? E-bostiwch impactcentre@contact.bham.ac.uk gyda'ch enw, rôl a lleoliad | |||||||||||||||||||||
Nyrsio Cartrefi Gofal: Amser allan gyda RCN Cymru Digwyddiadau ar-lein Dathlu a Gwrando
Mae croeso i aelodau RCN a rhai nad ydynt yn aelodau ddod, ond rhaid i'r cyfranogwyr weithio yng Nghymru i fynychu'r digwyddiad hwn. | Mae RCN Cymru eisiau gwrando a deall y materion sy'n bwysig i'r rhai sy'n gweithio mewn cartrefi gofal. Yn y digwyddiadau hyn byddwn yn clywed straeon o ymarfer ac yn cymryd amser i ffwrdd i glywed gan y rhai sy'n mynychu - gyda'r nod o'n helpu i lunio ein gwaith yn y maes hwn yn y dyfodol.
Wedi'i anelu at nyrsys cofrestredig, gweithwyr cymorth gofal iechyd a myfyrwyr nyrsio cyn-gofrestru - mae'r digwyddiadau ar gyfer staff cartrefi gofal yng Nghymru, gan gynnwys rheolwyr a pherchnogion, i ddod at ei gilydd, rhannu profiadau, gofyn cwestiynau, a dathlu arfer da. | Am archebion ar wefan RCN, cliciwch y dolenni ar gyfer y dyddiadau / sesiynau priodol: Dydd Iau 24 Mehefin, 2pm - 3.30pm
Dydd Gwener 9 Gorffennaf, 2pm - 3.30pm
Dydd Gwener 23 Gorffennaf, 2pm - 3.30pm
Saesneg yn unig: Care-Home-Nursing-Time-Out-Listening-and-Celebrating-RCN-Wales-flyer
Y DYDDIAD CAU AR GYFER DERBYN POB CAIS YN 1 WYTHNOS CYN DYDDIAD POB DIGWYDDIAD | |||||||||||||||||||||
Gofal Cymdeithasol Cymru – Deall a ddefnyddio’r dull canlyniadau | Gweler y dogfennau atodedig sy'n dod ynghyd ystod o adnoddau defnyddiol i hyrwyddo canlyniadau personol yn ymarferol. Mae'n archwilio beth yw canlyniadau personol, pam ei bod yn dda gweithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau a beth mae hynny'n ei olygu i reolwyr gofal cartref. Mae ganddo wybodaeth, fideos, offer ac ymarferion y gallwch eu defnyddio gyda thimau staff ar feysydd gan gynnwys gweithle, diwylliant, gweithio gyda phartneriaid a goruchwyliaeth.
Ynghlwm hefyd mae ffurflenni adborth. Pe gallech anfon y rhain yn ôl gyda'ch sylwadau erbyn 28 Mehefin 2021, byddem yn gwerthfawrogi hynny.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â mi yn uniongyrchol. Liz Parker - Swyddog Ymgysylltu a Datblygu - liz.parker@socialcare.wales
| Deall a Defnyddio Dull Canlyniadau
| |||||||||||||||||||||
Llywodraeth Cymru | |||||||||||||||||||||||
Canllawiau ar angladdau: COVID-19
| Canllawiau ar gynnal a mynychu angladdau yn ystod y pandemig coronafirus. | ||||||||||||||||||||||
Cyfleusterau profi coronafeirws rhanbarthol
| Mae capasiti profi Cymru wedi’i gefnogi gan rwydwaith helaeth o gyfleusterau ledled y wlad. | ||||||||||||||||||||||
Y Gweinidog Iechyd newydd yn gofyn i bobl Cymru fynd ar eu gwyliau yn y DU eleni
| Mae’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yn gofyn i bobl fynd ar eu gwyliau yng Nghymru a manteisio ar y cyfle i fwyhau ei phrydferthwch, wrth i’r frwydr yn erbyn y coronafeirws barhau. | Y Gweinidog Iechyd newydd yn gofyn i bobl Cymru fynd ar eu gwyliau yn y DU eleni | LLYW.CYMRU | |||||||||||||||||||||
Datganiad Ysgrifenedig: Diweddariad ar Gyflawni’r Strategaeth Frechu COVID-19
| Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | ||||||||||||||||||||||
Datganiad Ysgrifenedig: Tystysgrifau brechu ar gyfer teithio rhyngwladol
| Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Datganiad Ysgrifenedig: Tystysgrifau brechu ar gyfer teithio rhyngwladol (24 Mai 2021) | LLYW.CYMRU | |||||||||||||||||||||
Cynllun cydnabyddiaeth ariannol y GIG a gofal cymdeithasol: canllawiau i weithwyr gofal sylfaenol.
| Gwybodaeth ynghylch pwy sy’n gymwys i gael y taliadau a sut y cânt eu gwneud. | ||||||||||||||||||||||
Ymweliadau â chartrefi gofal: canllawiau i ddarparwyr
| Canllawiau ar sut i alluogi ymwelwyr i ymweld yn ddiogel yn ystod pandemig coronafeirws. | Ymweliadau â chartrefi gofal: canllawiau i ddarparwyr | LLYW.CYMRU | |||||||||||||||||||||
Cadw cofnodion ynghylch staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr: profi, olrhain, diogelu
| Canllawiau a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 21 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020. | Cadw cofnodion ynghylch staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr: profi, olrhain, diogelu | LLYW.CYMRU | |||||||||||||||||||||
Sut i ynysu pan fyddwch yn teithio i Gymru: coronafeirws (COVID-19)
| Yr hyn y mae’n rhaid i chi ei wneud i ddiogelu Cymru rhag y coronafeirws wrth gyrraedd o wlad dramor. | Sut i ynysu pan fyddwch yn teithio i Gymru: coronafeirws (COVID-19) | LLYW.CYMRU | |||||||||||||||||||||
Cael brechlyn rhag COVID-19
| Mwy o wybodaeth am y rhaglen brechu COVID-19 a sut bydd y brechlyn yn cael ei roi ar waith. | ||||||||||||||||||||||
Cerdyn eithrio rhag gwisgo gorchudd wyneb
| Gallwch ddefnyddio’r cerdyn hwn i ddangos eich bod wedi’ch eithrio rhag gwisgo gorchudd wyneb. Dewis personol yw hwn ac nid yw’n angenrheidiol yn ôl y gyfraith. | ||||||||||||||||||||||
Mynd heibio’r garreg filltir o ddwy filiwn o frechiadau
| Mae mwy na dwy filiwn o bobl yng Nghymru wedi cael brechiad COVID-19, yn ôl y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd heddiw. | Mynd heibio’r garreg filltir o ddwy filiwn o frechiadau | LLYW.CYMRU | |||||||||||||||||||||
Deddfwriaeth coronafeirws: cyfyngiadau ar unigolion, busnesau ac eraill
| Rheoliadau i roi cyfyngiadau ar unigolion, busnesau ac eraill i ddiogelu iechyd cyhoeddus. | Deddfwriaeth coronafeirws: cyfyngiadau ar unigolion, busnesau ac eraill | LLYW.CYMRU |