Wrth wneud sylwadau ar gyhoeddi Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) Llywodraeth Cymru, sy’n ymrwymo i gael gwared ar elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal, dywedodd Cadeirydd ADSS Cymru, Lance Carver:
“Mae ADSS Cymru yn cefnogi uchelgais a bwriad Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) ac rydym yn cydnabod mai cael gwared ar wneud elw o ofal plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru yw’r peth iawn i’w wneud.
Rydym hefyd yn croesawu’r cyfraniad sylweddol a wnaed gan yr holl blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a fuddsoddodd cymaint o amser ac ymdrech i lunio’r bil hwn.
Fodd bynnag, mae ADSS Cymru yn dymuno tynnu sylw at y ffaith y bydd newid o’r fath yn gofyn am fuddsoddiad sylweddol o ran adnoddau, arian ac amser, ar adeg pan fo cyllidebau awdurdodau lleol eisoes dan bwysau.
Mae tua thri chwarter o gartrefi plant Cymru yn cael eu rheoli gan gwmnïau preifat. Byddai angen cyllid ychwanegol i gymryd lle'r cwmnïau hyn er mwyn prynu ac adnewyddu adeiladau addas, cyflogi a hyfforddi staff, a chofrestru pob cartref gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.
Byddem hefyd yn croesawu buddsoddiad mewn cymorth ymyrraeth gynnar. Pe byddai’r cymorth hwn yn effeithiol byddai angen y system ofal ar lai o blant yn y lle cyntaf.
Mae ADSS Cymru hefyd yn cydnabod bod yna rhai darparwyr preifat rhagorol yng Nghymru sydd wedi datblygu modelau gofal unigryw o ansawdd uchel. Mae'r cwmnïau hyn yn aml yn darparu gwasanaethau arbenigol sy'n deillio o flynyddoedd o fuddsoddiad. Byddai colli’r gwasanaethau hyn yn gadael bwlch yn y sector gofal, a allai wanhau ansawdd ac amrywiaeth y gofal sydd ar gael.
Er gwaethaf yr heriau a’r risgiau, mae ADSS Cymru yn credu mai cael gwared ar elw o ofal plant sy'n derbyn gofal yw’r peth iawn i’w wneud ac y bydd yn dod â buddion a chyfleoedd sylweddol yn y tymor hir.
Mae ADSS Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru, a phartneriaid eraill, i sicrhau bod y newid polisi yn cael ei roi ar waith mewn ffordd sy’n deg, yn dryloyw ac yn effeithiol, a’i fod yn darparu’r gofal gorau posibl i blant sy’n derbyn gofal yng Nghymru.”