Wrth sôn am y Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol newydd i Gymru, dywedodd Jonathan Griffiths, Llywydd ADSS Cymru:
‘Mae ADSS Cymru yn croesawu ac yn cefnogi Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Llywodraeth Cymru i Gymru. Fel y nodir yn y Cynllun Gweithredu, mae ADSS Cymru yn cytuno'n llwyr fod "pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn gwneud cyfraniad aruthrol i Gymru sy'n llewyrchus, iachach a mwy cyfartal gyda diwylliannau bywiog ac ieithoedd ffyniannus”.
‘Mae'r Cynllun wedi'i gynllunio ar y cyd gyda chymunedau i baratoi'r ffordd ar gyfer newid radical, systemig a hirdymor. Mae'n cynnwys yn benodol, cyfres nodedig o nodau ar gyfer y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru, "i ymgorffori arferion gwrth-hiliol ym mhob rhan o'r gweithlu ac wrth ddarparu gwasanaethau". Mae’r cynllun, sy’n dod yn sgil effaith sylweddol Covid-19 ar bobl o leiafrifoedd ethnig, yn alwad hanfodol, mawr ei angen i weithredu dros ein sector.’
‘Mae'n bwysig i ni gydnabod bod rhai pobl o leiafrifoedd ethnig wedi adrodd yn y Cynllun fod eu profiadau byw o wasanaethau gofal cymdeithasol, ar adegau, wedi dangos "diffyg tosturi ac empathi, ac ar adegau, maent wedi teimlo fel pe na bai rhywun yn gwrando arnynt ac nad oedd eu hanghenion yn cael eu diwallu". Mae hyn yn annerbyniol ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru i helpu i wneud newidiadau cynaliadwy yn y tymor hir.’
‘Rydym yn agored ac yn ymatebol i alwad Llywodraeth Cymru am sefydliadau fel ein un ni i gefnogi'r camau gweithredu a amlinellir yn y Cynllun, ac rydym yn deall y bydd newid yn digwydd drwy wrando ar y rhai sydd â phrofiadau byw. Mi fyddant yn seiliedig ar hawliau, yn agored ac yn dryloyw. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i helpu i weithredu'r nodau sy'n ofynnol erbyn 2030.’
‘Yn ddiweddar fe wnaeth ADSS Cymru gwblhau rhaglen waith o'r enw "Cynyddu nifer y bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig sy'n manteisio ar ofal cymdeithasol" fel rhan o raglen waith Grant Cyflawni Trawsnewid Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021/22. Nod yr astudiaeth oedd meithrin dealltwriaeth ddyfnach a chliriach o'r rhwystrau a wynebir pan fydd angen gofal a chymorth ar bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig, sydd, yn ôl y dystiolaeth yn llai na'r cyfartaledd ar gyfer y boblogaeth gyfan. Mae'r adroddiad ar gael i'w ddarllen ar ein gwefan drwy glicio yma.
‘Mae'n amhosibl dychmygu'r system gofal cymdeithasol yng Nghymru heb y cyfraniad hanfodol y mae pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn ei wneud, ac mae ADSS Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a'n rhanddeiliaid a phartneriaid i adeiladu Cymru wrth-hiliol.’
Gellir lawr lwytho'r Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol i'w ddarllen mewn amrywiaeth o fformatau ar wefan Llywodraeth Cymru yma <https://gov.wales/anti-racist-wales-action-plan>.