Wrth sôn am raglen ddogfen BBC Cymru, Michael Sheen: Lifting the Lid on the Care System, dywedodd Jonathan Griffiths, Llywydd ADSS Cymru:

Wrth siarad ar ran ADSS Cymru yn ei gyfanrwydd, sef y corff aelodaeth sy'n cynrychioli barn arweinwyr yn y maes gofal cymdeithasol, credwn ei bod yn bwysig bod profiadau gofidus y bobl ifanc yn y rhaglen ddogfen, Michael Sheen: Lifting the Lid on the Care System, wedi cael eu rhannu. 

Mae dod i mewn i'r system ofal yn gallu bod yn brofiad anodd iawn ac mae cynorthwyo plant a phobl ifanc sy'n debygol o fod wedi wynebu trawma, trawma cymhleth ac ail-drawma, yn flaenoriaeth i Awdurdodau Lleol a'u partneriaid. Ar ôl clywed profiadau Niall, Hope a Gemma (ffugenwau) yn y rhaglen ddogfen, rydym yn annog ein cydweithwyr yn yr Awdurdodau Lleol i ailedrych ar eu trefniadau i sicrhau bod mecanweithiau cadarn ar waith i alluogi plant a phobl ifanc sydd yn y system ofal ar hyn o bryd, gynnal sgyrsiau diogel y gellir ymddiried ynddynt gyda gweithwyr proffesiynol ynglŷn â'u diogelwch a'u lles. 

Mae Awdurdodau Lleol ledled Cymru yn gweithio'n barhaus i ddatblygu a chyflawni gwaith arloesol, sy'n sicrhau canlyniadau da i blant a phobl ifanc yn gyson. Mae'n bwysig ein bod yn dod o hyd i ffordd fwy effeithiol o rannu profiadau cadarnhaol a negyddol er mwyn sicrhau y gall y sector barhau i fireinio a gwella arferion a chanlyniadau i blant.

Mae'n ddyletswydd ar ein haelodau i sicrhau bod plant y mae angen iddynt dderbyn gofal, yn cael eu rhoi mewn cartref addas, ac rydym bob amser yn troi yn gyntaf at lety a reoleiddir. Weithiau, mewn nifer fach o achosion, nid oes gan Awdurdodau Lleol unrhyw ddewis arall heblaw am ddefnyddio lleoliadau heb eu rheoleiddio, a hynny oherwydd diffyg dewisiadau eraill sy'n addas. Rydym yn gweithio i newid hyn.

Er mwyn i newid ddigwydd, mae ADSS Cymru yn cefnogi dull cydgysylltiedig wrth ddarparu gwasanaethau i blant. Rydym yn gweithio i gynnal a datblygu perthynas â sefydliadau sy'n gweithio ar draws y sector, gan gynnwys partneriaid allweddol fel Gofal Cymdeithasol Cymru a Maethu Cymru. Mae'n bwysig cydnabod y rôl hollbwysig y mae gofalwyr maeth yn ei chwarae wrth gefnogi plant sy'n derbyn gofal, a bod angen mwy o ofalwyr maeth yng Nghymru.

Dywedodd Alastair Cope, Pennaeth Maethu Cymru:

“Bydd Maethu Cymru yn parhau i weithio ochr yn ochr â gofalwyr a phobl ifanc â phrofiad o dderbyn gofal, i annog mwy o bobl i ystyried maethu, gan roi'r sefydlogrwydd sydd ei angen ar blant i feithrin perthynas barhaol â gofalwyr, ffrindiau a theulu yn eu cymuned leol, pethau rydyn ni'n gwybod sy'n gwneud gwahaniaeth amlwg i gyfleoedd bywyd.”

Fel y nododd Michael Sheen yn y rhaglen ddogfen, mae angen trawsnewid y system. Nid her un asiantaeth yw'r trawsnewid sydd ei angen. Mae'r holl weithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y system am weithio'n bositif, gydag egni a brwdfrydedd i wneud pethau'n iawn a chreu system sy'n cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel, ac yn caniatáu iddynt ffynnu.

Mae gan blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o'n gwasanaethau, brofiadau pwysig y gall plant sydd yn y system ar hyn o bryd elwa ohonynt, fel y dengys y ddogfen hon mewn ffordd mor bwerus. Mae angen i broses drawsnewid sy'n mynd i'r afael â diwygio'r system gyfan, gynnwys pob un ohonom. Mae ein hymwneud â sefydliadau fel Voices from Care, a gwrando ar brofiadau pobl ifanc eu hunain, yn hynod allweddol yn hyn o beth.

--------------------------------------------

END

Nodiadau i’r wasg:

Maethu Cymru

Sefydlwyd Maethu Cymru i ddod â phob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru at ei gilydd i gynyddu nifer y gofalwyr maeth sydd ar gael i gynnig cymorth cynnar i'n plant yng Nghymru. Gyda'i gilydd, maent yn darparu cefnogaeth i dros 2,700 o deuluoedd maeth mewn awdurdodau lleol i roi cariad, sefydlogrwydd a lle i'n plant ei alw'n gartref. Ond mae angen mwy o ofalwyr maeth, a'r llynedd roedd angen gofalwr maeth ar 1857 o blant yng Nghymru.

 

  • Dyddiad: 18/07/2022