Mae’r Grŵp Arweinyddiaeth ynghylch Diogelu yn grŵp amlasiantaeth ac mae’n cymryd yr awenau o ran cydlynu polisi ADSS Cymru ynghylch materion diogelu oedolion a phlant.
Mae’r grŵp yn cwrdd bob chwe mis.
Arweinydd Polisi: Sue Cooper (Pen-y-bont ar Ogwr)
Mae amddiffyn ein plant a’n hoedolion sydd fwyaf agored i niwed yn flaenoriaeth a rennir rhwng llywodraeth leol a’r GIG ac mae’n atseinio yn wyneb adroddiad ‘Trusted to Care’ Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (ABMUHB) a digwyddiadau eraill mewn mannau eraill o Gymru ac effaith yr arolwg o ofal preswyl gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. At hyn, mae proffil cynyddol uchel achosion o gamfanteisio plant yn rhywiol yn cyfrannu at wneud hon yn flaenoriaeth arwyddocaol.
Blaenoriaethau:
- Sicrhau strwythurau a systemau effeithiol i amddiffyn y rhai sydd fwyaf agored i niwed
- Darparu arweiniad proffesiynol cryf
- Cyfrannu i strwythurau newydd i blant ac oedolion er mwyn iddynt fod yn ddiogel er mwyn canfod atebion diogel a chynaliadwy
- Rhoi diogelu wrth graidd partneriaeth ar draws y sector cyhoeddus a thu hwnt