Addewid Arweinwyr Gwasanaeth Plant Cymru Gyfan

Mae arweinwyr y Gwasanaethau Plant yn addo gweithio ar y cyd ac yn dryloyw i reoli cadwyn gyflenwi’r asiantaeth, gwella ansawdd staff asiantaeth a rheoleiddio cyfraddau tal o fewn Gwaith Cymdeithasol Plant.

Dros y chwe mis diwethaf, ac mewn ymateb i ansefydlogrwydd cynyddol yn y farchnad recriwtio, mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu dull ar y cyd o ran y defnydd o weithwyr cymdeithasol asiantaeth yn y gwasanaethau plant. Mae Addewid Cymru Gyfan yn ymrwymiad gan arweinwyr y Gwasanaethau Plant ledled Cymru i fabwysiadu a gweithredu egwyddorion cytunedig o fewn yr addewid wrth ymgysylltu ag asiantaethau recriwtio wrth gyflenwi uwch-weithwyr cymdeithasol (uwch-asiantaethau recriwtio wrth gyflenwi gweithwyr cymdeithasol, dirprwy reolwyr tîm, uwch-weithwyr cymdeithasol) a rheolwyr tîm.

Diben cofrestru i’r addewid yw datblygu dull tryloyw a chydweithredol, ymhlith arweinwyr gofal a fydd yn gwneud y canlynol:

· Symleiddio ac uno cyfraddau tal asiantaethau

· Lleihau nifer y staff sy’n symud o rolau parhau i rolau asiantaeth

· Cytuno ar egwyddorion cenedlaethol ar gyfer defnyddio gweithwyr asiantaeth, yn arbennig prosesau recriwtio a hyd y profiad ôl-gymhwyster mae ei angen

· Sicrhau bod arferion a safonau moesegol yn sail i anghenion a blaenoriaethau recriwtio

Daw’r addewid i rym ddydd Llun 1 Mai 2023.

Meddai Alwyn Jones, Llywydd ADSS Cymru a Jenny Willams, Cyfarwyddwr Arweiniol Grŵp Arweinyddiaeth y gweithlu, ADSS Cymru: 'Nodwyd nad yw’r heriau recriwtio a nodwyd gennym yn benodol i Gymru ac mae’r newidiadau y byddwn yn eu rhoi ar waith yn gyson â’r mesurau sydd eisoes wedi cael eu cyflwyno mewn mannau eraill yn y DU; y bydd rhai’n cael eu cryfhau hyd yn oed ymhellach yn yr ymgynghoriad Adran Addysg cyfredol. Mae’r rhain yn newidiadau pwysig a fydd, ar adeg her economaidd parhaus, yn ein helpu i sicrhau bod adnoddau wedi’u canolbwyntio er budd y rheiny rydym yn ceisio eu cefnogi a’u diogelu.'

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch: allwalespledge@adss.cymru

Atodiad 1: Cyfraddau cyflog Cymru gyfan
Lawrlwytho
Atodiad 2: Templed cyfeiriol Cymru Gyfan
Lawrlwytho
Atodiad 3: Rhestr wirio aseiniadau Cymru gyfan
Lawrlwytho
Cwestiynau ac Atebion i Ddarparwyr Asiantaeth Recriwtio'r Plant
Lawrlwytho
  • Dyddiad: 26/04/2023